Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Dewch o hyd i hwyl chwedlonol

Published

on

Ewch yn Wyllt yn y Goedwig: Ym Mhentref Oes Haearn Castell Henllys

OS YDYCH chi’n chwilio am ddiwrnod allan i’w gofio dros hanner tymor mis Chwefror, dewch i fwynhau’r tri atyniad teuluol llawn hwyl sydd ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Mae Castell Caeriw, Pentref Oes Haearn Castell Henllys ac Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn cynnal digwyddiadau i’r teulu cyfan a fydd yn dal eich dychymyg ac yn eich ysbrydoli i ddysgu mwy am dirwedd chwedlonol y Parc Cenedlaethol ac am sawl myth dirgel yn yr ardal.

Dywedodd Jenn Jones, Rheolwr Castell Henllys ac Oriel y Parc: “Mae’r tri safle wedi trefnu amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau i ddathlu Blwyddyn Chwedlau Cymru, felly os ydych chi’n chwilio am ffordd o ddiddanu’r plant neu os ydych chi am fynd ar daith drwy hanes, mae rhywbeth at ddant pawb.

“Bydd ein staff parod eu cymwynas yn eich helpu i ddysgu mwy am y Parc Cenedlaethol ac yn eich cyfeirio chi at leoliadau chwedlonol cyfagos. “

Bydd Creadigaethau Crefftus y Castell yng Nghas tell Caeriw o ddydd Llun 20 Chwefror tan ddydd Gwener 24 Chwefror rhwng 12.30pm a 2.30pm, gydag amrywiaeth o weithgareddau a fydd yn newid bob dydd.

Mae’r gweithgareddau’n cyn nwys creu rhwbiad pres, draig, teilsen glai neu hyd yn oed roi cynnig ar galigraffi. £2 y plentyn yn ogystal â’r pris mynediad arferol. I gael manylion llawn, gan gynnwys oriau agor, ewch i www.castellcaeriw.com.

Ym Mhentref Oes Haearn Castell Henllys, bydd y gorffennol yn dod yn fyw gyda Thaith Dywys Arianrhod ar 13-19 Chwefror a 21 Chwefror, a bydd tywyswyr mewn gwisgoedd yn dangos sut roedd bywyd bob dydd i’r rhai oedd yn byw ac yn gweithio yn y tai crynion ac o’u cwmpas. Bydd hyn yn gynwysedig yn y pris mynediad.

Rhwng 20 a 24 Chwefror, bydd Go Wild in The Woods yn darparu amrywiaeth o weithgareddau a fydd yn rhoi cyfle i chi ymgysylltu â natur, megis byw yn y gwyllt, gweithio gyda chlai, adeiladu den, trochi mewn pyllau a llawer mwy. £3 yn ogystal â’r pris mynediad.

Ddydd Mercher 22 Chwefror, bydd Milly Jackdaw yn eich swyno â straeon o’r Mabinogion o amgylch y tân cleciog yn nhŷ crwn Earthwatch gyda Cherrig Meibion Arthur. Byddant yn cael eu hadrodd am 11am-12.30pm a 2pm-3.30pm.

Yn Hwyl Straeon y Tylwyth Teg ddydd Iau 23 Chwefror rhwng 11.30am a 2pm, cewch gyfle i greu penwisg neu ffon hud dewin gyda deunyddiau wedi’u casglu yn y coetir o amgylch y safle. £3 yn ogystal â’r pris mynediad. I gael manylion llawn, gan gynnwys oriau agor, ewch i www. castellhenllys.com.

Yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc, bydd gweithdai tynnu lluniau i’r teulu cyfan gyda Lizzy Stonhold am 10am-12pm a 2pm-4pm ar 20 a 23 Chwefror. Byddwch yn gweithio ar greu map o Dyddewi, a fydd yn cael ei arddangos yn stiwdio’r Artist Preswyl. £3 y plentyn, a £5 yr oedolyn. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn.

Ddydd Mawrth 21 Chwefror, bydd Byddwch yn Greadigol! Gweithdy Dreigiau yn cael ei gynnal rhwng 10.30am a 2pm a fydd yn eich helpu i greu darnau o waith celf ar thema draig er mwyn paratoi ar gyfer Gorymdaith flynyddol y Ddraig. Bydd yr orymdaith yn digwydd ddydd Sadwrn 4 Mawrth fel rhan o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi. £3 y plentyn.

Yna, ddydd Sul 26 Chwefror, bydd cyfle i weld beiciau modur retro sy’n cymryd rhan yn Ras Hen Feiciau Modur a Beiciau Modur Clasurol Sir Benfro. Byddant i’w gweld yn y cwrt yn Oriel y Parc rhwng 12pm a 2pm.

Hefyd, mae amrywiaeth o arddangosfeydd rhad ac am ddim i’w gweld, gan gynnwys arddangosfa yn y brif oriel gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Cofnodi’r Creigiau: Mapiau Rhyfeddol William Smith. I gael manylion llawn, gan gynnwys oriau agor, ewch i www. orielyparc.com.

Os ydych chi am ddarganfod Arfordir Penfro drwy fynd am dro, gallwch ddod o hyd i fwy na 200 o lwybrau ar wefan yr Awdurdod. I ganfod llwybr eich taith chwedlonol, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/ cerdded.

I gael rhagor o wybodaeth am yr ystod gyfan o weithgareddau a’r digwyddiadau sy’n cael eu cynnal gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn 2017, ewch i www. arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau.

Continue Reading

Cymraeg

Pleser o’r Mwyaf

Published

on

By

DEWCH i’r Man a’r Lle yn Aberteifi i wrando ar wyth o fawrion y genedl yn cyflwyno pum peth sydd yn datgelu rhywbeth am eu hanes eu hunain, boed hynny ar ffurf hoff gerddi a darnau o ryddiaith neu wrthrychau sydd ag arwyddocâd personol.

Byddwn yn cwrdd yn fisol (heblaw Rhagfyr) rhwng Hydref a Mehefin i godi arian tuag at Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion.

Cynhelir y cyfarfod cyntaf ar ddydd Sadwrn, 19 Hydref am 11yb tan 12.30yp yng nghwmni’r Prifardd Idris Reynolds.

Tocynnau wrth y drws £5. Te, coffi a chacen £1.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Natalie Morgan (ebost: njm84@outlook.com), Helen Thomas (helenteifi@outlook.com) neu Richard Vale (riv1@aber.ac.uk).

Fe fydd y cyfarfodydd hyn yn addas i ddysgwyr profiadol, a byddwn yn paratoi taflenni geirfa i chi.

Dewch yn llu i gefnogi’r Brifwyl trwy joio mas draw!

Continue Reading

Cymraeg

Gall Cymru gael ei phweru gan ynni morol

Published

on

By

GALL Cymru fod yn wlad sy’n cael ei phweru gan ynni’r môr, mae Lesley Griffiths yn addo.

Mae gan ynni’r môr y potensial i fod wrth wraidd cynlluniau uchelgeisiol i Gymru fod yn wlad sy’n cael ei phweru gan ffynonellau ynni adnewyddadwy, yn ôl Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

Pan oedd hi’n siarad yn y Gynhadledd ar Ynni’r Môr yn Nulyn ar Dydd Llun (30 Medi), gwnaeth y Gweinidog amlinellu’r llwyddiannau mae busnesau wedi’u cael wrth alluogi ynni’r môr yn ystod y flwyddyn diwethaf, a’r buddsoddiadau yn y gadwyn gyflenwi sy’n caniatáu i hyn ddigwydd.

Rydyn ni’n cydnabod bod y sector yn ifanc iawn, felly rydyn ni wedi buddsoddi mewn deg prosiect sy’n gysylltiedig ag ynni’r môr er mwyn adeiladau capasiti ac arbenigedd yng Nghymru, meddai hi.

Cytunwyd ar dros €71 miliwn o gyllid Ewropeaidd, a fydd yn arwain at fuddsoddiadau gwerth dros €117 miliwn yng Nghymru.

Mae’r busnesau sydd wedi elwa’n cynnwys:

• Ledwood Engineering, Mainstay Marine, MarineSpace a busnesau a leolir yn Sir Benfro yng Ngorllewin Cymru. Mae’r busnesau hyn i gyd wedi manteisio ar y buddsoddiadau gwerth miliynau o bunnoedd, sydd wedi bod o fudd i’w harbenigedd technegol presennol o fewn y sector ynni a sector ynni’r môr.

• Mae Minesto wedi cwblhau prosiect i alluogi’r gwaith o gyflwyno eu technoleg ffrwd lanw Deep Green yn fasnachol yn Holyhead Deep, oddi ar arfordir gorllewinol Ynys Môn. Roedd y prosiect yn cynnwys dylunio, gosod a phrofi dyfais 500 cilowat. Mae cam nesaf y prosiect wedi derbyn €14.9 miliwn ychwanegol, a bydd yn ategu’r gwaith o ddylunio safle 80 megawat oddi ar arfordir Ynys Môn, ochr wrth ochr â dylunio dyfais maint llawn o un megawat o leiaf.

• Gwnaeth y datblygwyr ynni’r tonnau Marine Power Systems, a leolir yn Abertawe, gwblhau eu blwyddyn o dreialon a phrofion morol yn llwyddiannus yr haf hwn, ac mae eu prototeip chwarter maint, WaveSub, wedi cyrraedd ei gerrig milltir critigol. Hefyd dyfarnwyd €13 miliwn iddynt i ddylunio a chynhyrchu dyfais fwy.

Bydd Fframwaith Morol cyntaf Cymru a Fframwaith Datblygu Cenedlaethol newydd hefyd yn rhoi polisi cynllunio strategol ar gyfer defnyddio adnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy ar y tir ac oddi arno.

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: “Rydyn ni’n benderfynol y bydd ynni’r môr yn rhan allweddol o’n cynlluniau i Gymru fod yn wlad sy’n cael ei phweru gan ffynonellau ynni adnewyddadwy. Mae cyllid gan yr Uned Ewropeaidd wedi bod yn hanfodol wrth gefnogi hyn.

“Rydyn ni wedi gosod targedau uchelgeisiol wrth inni geisio creu Cymru wyrddach lle mae adnoddau’n cael eu rheoli nid yn unig ar gyfer heddiw, ond er budd cenedlaethau’r dyfodol.

“Eleni rydyn ni wedi derbyn cyngor Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd i wneud ein targedau datgarboneiddio yng Nghymru yn fwy uchelgeisiol, wedi cyflwyno deddfwriaeth i fabwysiadu targed o 95% ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr y flwyddyn nesaf, ac rydyn ni’n archwilio sut gallwn ni osod targed o sero yn y dyfodol.

“Mae ynni’r môr a gwynt alltraeth yn rhan hanfodol o’r targedau hyn, wrth inni geisio harneisio ein hadnoddau naturiol i sicrhau manteision tymor hir ar gyfer pawb yng Nghymru.”

Gwnaeth y gweinidog hefyd annog Llywodraeth y DU i fuddsoddi mewn ynni’r môr ac ynni adnewyddadwy yng Nghymru.

Continue Reading

Cymraeg

Edrych ar ochr dywyll Cymru

Published

on

By

YMWELD â chorneli cudd cymdeithas – dyna hanfod y gyfres S4C Ein Byd – ac weithiau dyw hi ddim yn ddarlun hardd.

Yn ystod y gyfres bresennol mae’r cyflwynydd Siôn Jenkins yn ymchwilio i bynciau dwys gan gynnwys syrjeri tramor a defnydd cyffuriau yn un o ardaloedd Cymru sydd wedi’i henwi’n un o’r ‘hotspots’ heroin gwaethaf ym Mhrydain.

A does dim dal nôl – mae Siôn, sydd yn wreiddiol o Landysilio yn Sir Benfro – yn benderfynol o daflu goleuni ar sawl ochr dywyll o fywyd yng Nghymru.

“Mae’r pethau ‘ma’n mynd ymlaen yng Nghymru, ac efallai ‘dyw pobol ddim eisiau cydnabod hynny; ond mae’n bwysig ein bod ni’n dangos y pynciau hyn, a bod pobol yn cael gwybod am eu presenoldeb yn ein cymdeithas,” meddai Siôn. “Dyw bywyd yng Nghymru ddim yn fêl i gyd a thrwy Ein Byd rwy’ eisiau dal drych i fyny ac adlewyrchu’r darlun go iawn.”

Un o gryfderau Ein Byd yw’r berthynas mae Siôn yn datblygu gyda’r bobol sy’n ymddangos yn y gyfres ac sydd ynghanol neu sydd wedi bod trwy brofiadau anodd.

Yn y bennod ‘Syrjeri Tramor’, mae Siôn yn dilyn merch sy’n mynd i Dwrci i gael llawdriniaeth BBL (Brazilian Butt Lift). Mae Siôn gyda hi cyn, yn ystod ac ar ôl y syrjeri ac o ganlyniad, mae’n cael ymatebion gonest a chignoeth am yr holl boen mae hi wedi dioddef er mwyn creu’r corff delfrydol.

Yn y bennod ‘Cyffuriau’ mae Siôn yn dilyn Meinir, menyw yn ei 50au sydd wedi bod yn gaeth i gyffuriau am bron i 20 mlynedd ac ym mhennod ‘Y Sioe Fawr’ mae Siôn yn cael cyfweliad ecsgliwsif gyda mam James Corfield a fu farw yno adeg y Sioe Frenhinol 2017.

“Mae’n well ‘da fi adeiladu perthynas gyda’r bobl rwy’n dilyn yn hytrach na jysd mynd mewn, gwneud y cyfweliad a gadael,” esboniodd Siôn. “Rwy’n berson naturiol chwilfrydig ac rwy’n hoffi cynnal sgyrsiau a dod i wybod mwy am bobl a’u straeon.”

Ond ydyw hi’n anodd gweld y bobol mae’n dod i nabod yn dioddef?

“Newyddiadurwr ydw i ond mae’n gallu bod yn anodd iawn weithiau. Gyda Meinir, er enghraifft, roedd hi’n trio mor galed i ddod dros y cyffuriau ac o’n i’n meddwl ‘dyw’r fenyw ‘ma ddim yn gallu mynd trwy fwy’. Ond bu farw ei chwaer pan oeddem yn ffilmio’r rhaglen ac mae hi mewn perygl o golli ei phresgripsiwn. Roedd un peth ar ôl y llall felly weithiau mae’n anodd peidio teimlo drostyn nhw,” meddai Siôn.

“Ond dyna sy’n wych am Ein Byd – rwy’n cael dangos emosiwn ac empathi a bod fy hun wrth ohebu.”

Un o’r pethau mwyaf anodd i Siôn oedd cyfweld a mam James Corfield. “Roedd hi’n mor annwyl a hefyd mor barod i siarad ond mae hi’n dioddef ers colli ei mab.”

Ym Mhennod 6 ar nos Iau 14 Chwefror bydd Siôn yn bwrw golwg ar y byd steroids, a’r sefyllfa yng Nghymru.

“Byddaf yn gofyn pam fod dynion ifanc yn teimlo bod angen defnyddio steroids, ydyw hi’n ddiogel, beth yw’r peryglon a hefyd sut maen nhw’n cael gafael yn y steroids,” esboniodd Siôn.

“Mae steroids wedi bod o gwmpas am dipyn – ond mae’r defnydd wedi cynyddu yn ddiweddar ym myd rygbi – mae wedi troi mewn i gamp mor gorfforol. Felly mae cymryd steroids wedi troi mewn i rywbeth naturiol i ddynion ifanc i’w wneud.

“Mae’r steroids yn rhoi mantais iddyn nhw yn y gamp ond maen nhw’n dod yn ddibynnol ar y steroids ac mae sgil-effeithiau hirdymor o ganlyniad. Mae unigolyn o Sir Benfro yn sôn am ei brofiadau gyda steroids ac mae e wedi bron colli popeth oherwydd steroids – ei wraig, ei dy – roedd e bron lladd ei hunan.”

Mae Siôn yn falch iawn o Ein Byd a’r hyn mae’r gyfres wedi ei chyflawni. “Rwy’n meddwl bod Ein Byd yn cynnig rhywbeth ffres a newydd ac rwy’ wrth fy modd yn gweithio ar y gyfres,” meddai Siôn.

Continue Reading

Popular This Week

© 2019 Herald Newspapers PLC. All content is correct at the time of publication.