Cymraeg
Y Prif Weinidog yn cyhoeddi teilyngwyr

Enwebeion ar gyfer gwobrau
GWOBRAU Dewi Sant yw’r gwobrau cenedlaethol Cymru. Maent yn cydnabod llwyddiannau anhygoel bobl i mewn neu o Gymru ac yn cydnabod gorchestion a chyfraniadau gwych pobl o bob cefndir.
Wrth gyhoeddi’r teilyngwyr, dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones: “Nod Gwobrau Dewi Sant, sydd bellach yn eu pedwaredd flwyddyn, yw dathlu pobl sydd wedi mynd yr ail filltir i wneud gwahaniaeth i fywyd rhywun arall, sydd wedi goresgyn anawsterau neu wedi cyflawni rhywbeth ysbrydoledig.
“Unwaith eto, mae teilyngwyr Gwobrau Dewi Sant yn grŵp eithriadol o bobl. Mae pob un ohonynt yn gaffaeliad i Gymru – mae hi’n mynd i fod yn anodd dewis yr enillwyr! Rwy’n edrych ymlaen at ddathlu yr hyn y maen nhw wedi’i wneud yn y seremoni wobrwyo ar 23 Mawrth.”
Dyma’r rhestr o deilyngwyr yn y categorïau gwobrwyo canlynol: Dewrder; Dinasyddiaeth; Diwylliant; Menter; Arloesedd a Thechnoleg; Rhyngwladol; Chwaraeon; a Pherson ifanc.
DEWRDER
Diffoddwyr Tân, Gary Slack a Billy Connor. Ym mis Awst 2016, gwnaeth y diffoddwyr tân, Gary Slack a Billy Connor, herio cerrynt cryf ar Draeth y Castell, Dinbych-y-pysgod, i achub dau blentyn rhag boddi.
PC Christopher Bluck a PC Rhys Edwards, Heddlu De Cymru. Ym mis Mawrth 2016, gwnaeth y cwnstabliaid Christopher Bluck a Rhys Edwards beryglu eu hunain i achub bywyd menyw a oedd wedi rhoi ei hun ar dân ac a oedd â gwn yn ei llaw.
Diffoddwyr Tân Pontardawe. Ym mis Gorffennaf 2016, galwyd y diffoddwyr tân i dŷ oedd ar dân gyda dau fachgen bach yn methu dianc ohono. Gwnaeth y diffoddwyr frwydro yn erbyn amodau peryglus ac 800 gradd o wres i achub un o’r plant, bachgen tair blwydd oed, o’r tân. Achubwyd ail blentyn o’r tŷ hefyd, ond yn anffodus, bu farw.
DINASYDDIAETH
Cwnstabl Arbennig Cairn Newton- Evans, Heddlu Dyfed-Powys. Ar ôl dioddef trosedd casineb homoffobig, ymunodd Cairn â’r Heddlu er mwyn ceisio rhoi stop ar y math hwn o ymosodiadau rhag digwydd i eraill. Mae Cairn yn wirfoddolwr rheolaidd ac yn eiriolwr brwdfrydig dros hawliau LGBT.
21 Plus, elusen i gefnogi pobl â syndrom Down. Mae’r elusen, sy’n cael ei rhedeg gan dair mam sydd â phlant sydd â syndrom Down, wedi mynd o nerth i nerth dros y deng mlynedd diwethaf.
Anthony Evans, ymgyrchydd addysg i fyfyrwyr anabl. Wedi’i sbarduno wrth geisio gwella addysg ei fab sydd ag anabledd difrifol, mae Anthony wedi ymgyrchu dros addysg ôl-19 i oedolion sydd ag anableddau difrifol. O ganlyniad i ymdrechion Anthony, sefydlwyd coleg dydd i oedolion ifanc anabl yng Nghymru ym mis Medi 2016.
DIWYLLIANT
Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae Elfed, sydd wedi bod wrth lyw’r ŵyl am bron 25 mlynedd, wedi sicrhau bod yr Eisteddfod yn parhau i dyfu a datblygu, gan aros yn gyfoes a chroesawgar i bawb.
Yr Athro Jen Wilso, cerddor ac archifydd jazz. Am dros 50 mlynedd, mae Jen wedi chwarae rôl ganolog yn hyrwyddo cerddoriaeth jazz yng Nghymru ac yn dogfennu ei hanes a’i heffaith gymdeithasol – ac yn benodol rôl menywod mewn jazz.
The Cory Band. Wedi’i sefydlu yn Nhreorci yn 1884, mae gan y band pres enw da am ragoriaeth. Fe wnaethant greu hanes yn 2016 drwy fod y band cyntaf i fod yn bencampwyr y cystadlaethau Cenedlaethol, Agored, Ewrop a Brass in Concert a hynny i gyd yr un pryd.
MENTER
Llaeth y Llan – The Village Dairy, cynhyrchwyr iogwrt. Mae Llaeth y Llan, busnes teuluol a ddatblygwyd drwy arallgyfeirio fferm yng Nghonwy, yn cynhyrchu iogyrtiau a werthir ledled Cymru a’r DU. Maent yn credu bod eu busnes dim ond mor dda â’u 43 aelod o staff ac maent yn rhoi pwyslais ar hyfforddi a buddsoddi yn y gymuned.
David Banner, cyfarwyddwr gemau fideo. Yn ogystal â bod yn gyfarwyddwr gemau llwyddiannus ac yn Rheolwr Gyfarwyddwr Wales Interactive, mae Dai wedi bod yn rhan bwysig o dwf y diwydiant gemau yng Nghymru. Sefydlodd Sioe Gemau flynyddol Cymru yn 2012 a chreodd y prosiect GamesLab, menter datblygu ddigidol i Brifysgol De Cymru. Mae wedi helpu cannoedd o fyfyrwyr ac mae’n rhoi platfform byd-eang i gwmnïau digidol Cymru.
Halen Môn. Mae’r perchnogion, Alison a David Lea-Wilson, wedi llwyddo i ddechrau busnes cynaliadwy a llwyddiannus sy’n cyflogi pobl leol sydd ag egwyddorion amgylcheddol ac addysgol. Maent hefyd yn denu twristiaid i Ynys Môn.
ARLOESEDD, GWYDDONIAETH A THECHNOLEG
Jessica Leigh Jones, astroffisegwr a pheiriannydd. Mae gan Jessica radd mewn astroffiseg ac a enillodd wobr Peiriannydd Ifanc y Flwyddyn yn y DU. Mae hefyd wedi ennill Gwobr Entrepreneuriaeth Intel Inspiration am ddatblygu cyfres o droswyr ffibr optig newydd. Mae’n eiriolwr ar gyfer y gwyddorau technoleg, ac mae hefyd yn gyfarwyddwr Cynllun Addysg Beirianneg Cymru ac yn noddi Gwyddoniaeth a Pheirianneg yn Ysgol Alton Convent.
Yr Athro Meena Upadhyaya OBE, genetegydd. Mae gyrfa Meena, y fenyw Brydeinig gyntaf o dras Indiaidd i fynd yn Athro Prifysgol mewn geneteg feddygol yn y DU, gan ganolbwyntio ar anhwylderau genetig. Mae Meena wedi gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl drwy ei hymchwil feddygol a’i gwaith cymunedol ac elusennol. Derbyniodd OBE yn 2016 am ei gwaith ar eneteg feddygol a thros y gymuned Asiaidd yng Nghymru.
Genesis Biosciences. Mewn marchnad sy’n cael ei dominyddu gan ddeunydd glanhau cemegol caled a pheryglus ar adegau, mae Genesis yn datblygu cynnyrch sy’n ceisio diogelu cwsmeriaid a’r amgylchedd. Mae’r diwydiant wedi’u gwobrwyo droeon am eu gwaith gan gynnwys Gwobrau Arweinwyr Cynaliadwyedd EDIE 2015 a chategori Busnes Technoleg ac Arloesi’r Flwyddyn yng Ngwobrau Busnes Caerdydd 2015.
RHYNGWLADOL
Dr David Nott OBE, llawfeddyg rhyfel. Bob blwyddyn ers 23 mlynedd, mae David wedi cymryd gwyliau heb dâl o’i swydd fel llawfeddyg ymgynghorol yn Ysbyty Chelsea a San Steffan i weithio i asiantaethau cymorth a darparu triniaeth lawfeddygol i ddioddefwyr rhyfel a thrychinebau. Mae David a’i wraig, Elly, hefyd wedi sefydlu’r “davidnottfoundation”, gan godi cannoedd a miloedd o bunnoedd i elusen a rhoi hyfforddiant llawfeddygol i feddygon ar y rheng flaen.
Nizar Dahan, gwirfoddolwr rhyngwladol. Mae Nizar yn gweithio i’r Human Relief Foundation. Mae wedi cael ei enwebu am ei waith dyngarol rhyngwladol helaeth mewn ymateb i argyfwng y ffoaduriaid ac am sefydlu Prosiect Ymateb Cymorth Dyngarol Abertawe, sy’n cefnogi pobl sy’n agored i niwed ac sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi.
Yr Athro Carl G. Jones MBE, biolegydd cadwraeth. Mae’r Athro Jones wedi treulio’u holl fywyd yn adfer poblogaethau a chynefinoedd anifeiliaid mewn perygl, ac mae’n cael ei ystyried yn un o’r cadwraethwyr mwyaf llwyddiannus yn y byd. Mae’n gyfrifol am achub cudyllod cochion Mauritius, tair rhywogaeth o ymlusgiaid, ystlumod ffrwythau a sawl math o blanhigyn rhag diflannu.
CHWARAEON
Tîm Pêl-droed Rhyngwladol Cymru, UEFA Euro 2016. Gwnaeth tîm pêl-droed rhyngwladol Cymru, dan arweiniad Chris Coleman, gyrraedd y rownd gyn-derfynol yn Euros 2016. Roedd y tîm yn gynrychiolwyr o’r radd flaenaf i Gymru, ar y cae ac oddi arno, ac mae eu slogan, “Gorau Chwarae Cyd Chwarae”, wedi ysbrydoli’r genedl ac wedi denu diddordeb byd-eang.
Aelodau o Gymru oedd yn rhan o TeamGB yn y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd, Rio 2016. Y 24 athletwr o Gymru a ddewiswyd gan TeamGB oedd y garfan fwyaf o athletwyr o Gymru i fynd i Gemau Olympaidd dramor erioed, tra roedd y 26 o athletwyr Paralympaidd o Gymru yn cynrychioli 10% o dîm Prydain Fawr. Roedd 2016 yn flwyddyn lwyddiannus iawn i athletwyr Cymru. Gwnaethant gynrychioli’r wlad gydag urddas a dewrder.
Anne Ellis OBE, Llysgennad Chwaraeon. Ym mis Gorffennaf 2016, penderfynodd Anne Ellis roi’r gorau i fod yn Llywydd Hoci Cymru ar ôl ugain mlynedd wrth y llyw. Yn ystod y dau ddegawd, mae Hoci Cymru wedi gweld newidiadau sylweddol ac mae Anne wedi bod yn rhan o bob cam.
PERSON IFANC
Brittany Davies, gwirfoddolwr gyda phlant sy’n derbyn gofal. Dechreuodd Brittany dderbyn gofal pan oedd yn 16 oed ac er gwaethaf nifer o heriau arwyddocaol a thruenus, mae bellach yn astudio ar gyfer ei harholiadau Lefel Uwch ac yn gwirfoddoli’n rheolaidd i helpu eraill mewn sefyllfaoedd tebyg.
Savannah Lloyd, gwirfoddolwr iechyd meddwl. Ar ôl brwydro problemau iechyd meddwl ers pan oedd yn 11 mlwydd oed, mae Savannah yn defnyddio ei phrofiadau i estyn llaw a help i eraill mewn sefyllfaoedd tebyg.
Elan Môn Gilford, gwirfoddolwr chwaraeon. Er bod gan Elan, sy’n 18 oed, nam ar ei chlyw, mae’n gwirfoddoli am 8-10 awr yr wythnos i hyfforddi mewn sesiynau chwaraeon, karate i blant a phêl-rwyd. Mae Elan hefyd yn cynnal cwrs iaith arwyddion yn y gymuned.
Cymraeg
Pleser o’r Mwyaf

DEWCH i’r Man a’r Lle yn Aberteifi i wrando ar wyth o fawrion y genedl yn cyflwyno pum peth sydd yn datgelu rhywbeth am eu hanes eu hunain, boed hynny ar ffurf hoff gerddi a darnau o ryddiaith neu wrthrychau sydd ag arwyddocâd personol.
Byddwn yn cwrdd yn fisol (heblaw Rhagfyr) rhwng Hydref a Mehefin i godi arian tuag at Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion.
Cynhelir y cyfarfod cyntaf ar ddydd Sadwrn, 19 Hydref am 11yb tan 12.30yp yng nghwmni’r Prifardd Idris Reynolds.
Tocynnau wrth y drws £5. Te, coffi a chacen £1.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Natalie Morgan (ebost: njm84@outlook.com), Helen Thomas (helenteifi@outlook.com) neu Richard Vale (riv1@aber.ac.uk).
Fe fydd y cyfarfodydd hyn yn addas i ddysgwyr profiadol, a byddwn yn paratoi taflenni geirfa i chi.
Dewch yn llu i gefnogi’r Brifwyl trwy joio mas draw!
Cymraeg
Gall Cymru gael ei phweru gan ynni morol

GALL Cymru fod yn wlad sy’n cael ei phweru gan ynni’r môr, mae Lesley Griffiths yn addo.
Mae gan ynni’r môr y potensial i fod wrth wraidd cynlluniau uchelgeisiol i Gymru fod yn wlad sy’n cael ei phweru gan ffynonellau ynni adnewyddadwy, yn ôl Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.
Pan oedd hi’n siarad yn y Gynhadledd ar Ynni’r Môr yn Nulyn ar Dydd Llun (30 Medi), gwnaeth y Gweinidog amlinellu’r llwyddiannau mae busnesau wedi’u cael wrth alluogi ynni’r môr yn ystod y flwyddyn diwethaf, a’r buddsoddiadau yn y gadwyn gyflenwi sy’n caniatáu i hyn ddigwydd.
Rydyn ni’n cydnabod bod y sector yn ifanc iawn, felly rydyn ni wedi buddsoddi mewn deg prosiect sy’n gysylltiedig ag ynni’r môr er mwyn adeiladau capasiti ac arbenigedd yng Nghymru, meddai hi.
Cytunwyd ar dros €71 miliwn o gyllid Ewropeaidd, a fydd yn arwain at fuddsoddiadau gwerth dros €117 miliwn yng Nghymru.
Mae’r busnesau sydd wedi elwa’n cynnwys:
• Ledwood Engineering, Mainstay Marine, MarineSpace a busnesau a leolir yn Sir Benfro yng Ngorllewin Cymru. Mae’r busnesau hyn i gyd wedi manteisio ar y buddsoddiadau gwerth miliynau o bunnoedd, sydd wedi bod o fudd i’w harbenigedd technegol presennol o fewn y sector ynni a sector ynni’r môr.
• Mae Minesto wedi cwblhau prosiect i alluogi’r gwaith o gyflwyno eu technoleg ffrwd lanw Deep Green yn fasnachol yn Holyhead Deep, oddi ar arfordir gorllewinol Ynys Môn. Roedd y prosiect yn cynnwys dylunio, gosod a phrofi dyfais 500 cilowat. Mae cam nesaf y prosiect wedi derbyn €14.9 miliwn ychwanegol, a bydd yn ategu’r gwaith o ddylunio safle 80 megawat oddi ar arfordir Ynys Môn, ochr wrth ochr â dylunio dyfais maint llawn o un megawat o leiaf.
• Gwnaeth y datblygwyr ynni’r tonnau Marine Power Systems, a leolir yn Abertawe, gwblhau eu blwyddyn o dreialon a phrofion morol yn llwyddiannus yr haf hwn, ac mae eu prototeip chwarter maint, WaveSub, wedi cyrraedd ei gerrig milltir critigol. Hefyd dyfarnwyd €13 miliwn iddynt i ddylunio a chynhyrchu dyfais fwy.
Bydd Fframwaith Morol cyntaf Cymru a Fframwaith Datblygu Cenedlaethol newydd hefyd yn rhoi polisi cynllunio strategol ar gyfer defnyddio adnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy ar y tir ac oddi arno.
Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: “Rydyn ni’n benderfynol y bydd ynni’r môr yn rhan allweddol o’n cynlluniau i Gymru fod yn wlad sy’n cael ei phweru gan ffynonellau ynni adnewyddadwy. Mae cyllid gan yr Uned Ewropeaidd wedi bod yn hanfodol wrth gefnogi hyn.
“Rydyn ni wedi gosod targedau uchelgeisiol wrth inni geisio creu Cymru wyrddach lle mae adnoddau’n cael eu rheoli nid yn unig ar gyfer heddiw, ond er budd cenedlaethau’r dyfodol.
“Eleni rydyn ni wedi derbyn cyngor Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd i wneud ein targedau datgarboneiddio yng Nghymru yn fwy uchelgeisiol, wedi cyflwyno deddfwriaeth i fabwysiadu targed o 95% ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr y flwyddyn nesaf, ac rydyn ni’n archwilio sut gallwn ni osod targed o sero yn y dyfodol.
“Mae ynni’r môr a gwynt alltraeth yn rhan hanfodol o’r targedau hyn, wrth inni geisio harneisio ein hadnoddau naturiol i sicrhau manteision tymor hir ar gyfer pawb yng Nghymru.”
Gwnaeth y gweinidog hefyd annog Llywodraeth y DU i fuddsoddi mewn ynni’r môr ac ynni adnewyddadwy yng Nghymru.
Cymraeg
Edrych ar ochr dywyll Cymru

YMWELD â chorneli cudd cymdeithas – dyna hanfod y gyfres S4C Ein Byd – ac weithiau dyw hi ddim yn ddarlun hardd.
Yn ystod y gyfres bresennol mae’r cyflwynydd Siôn Jenkins yn ymchwilio i bynciau dwys gan gynnwys syrjeri tramor a defnydd cyffuriau yn un o ardaloedd Cymru sydd wedi’i henwi’n un o’r ‘hotspots’ heroin gwaethaf ym Mhrydain.
A does dim dal nôl – mae Siôn, sydd yn wreiddiol o Landysilio yn Sir Benfro – yn benderfynol o daflu goleuni ar sawl ochr dywyll o fywyd yng Nghymru.
“Mae’r pethau ‘ma’n mynd ymlaen yng Nghymru, ac efallai ‘dyw pobol ddim eisiau cydnabod hynny; ond mae’n bwysig ein bod ni’n dangos y pynciau hyn, a bod pobol yn cael gwybod am eu presenoldeb yn ein cymdeithas,” meddai Siôn. “Dyw bywyd yng Nghymru ddim yn fêl i gyd a thrwy Ein Byd rwy’ eisiau dal drych i fyny ac adlewyrchu’r darlun go iawn.”
Un o gryfderau Ein Byd yw’r berthynas mae Siôn yn datblygu gyda’r bobol sy’n ymddangos yn y gyfres ac sydd ynghanol neu sydd wedi bod trwy brofiadau anodd.
Yn y bennod ‘Syrjeri Tramor’, mae Siôn yn dilyn merch sy’n mynd i Dwrci i gael llawdriniaeth BBL (Brazilian Butt Lift). Mae Siôn gyda hi cyn, yn ystod ac ar ôl y syrjeri ac o ganlyniad, mae’n cael ymatebion gonest a chignoeth am yr holl boen mae hi wedi dioddef er mwyn creu’r corff delfrydol.
Yn y bennod ‘Cyffuriau’ mae Siôn yn dilyn Meinir, menyw yn ei 50au sydd wedi bod yn gaeth i gyffuriau am bron i 20 mlynedd ac ym mhennod ‘Y Sioe Fawr’ mae Siôn yn cael cyfweliad ecsgliwsif gyda mam James Corfield a fu farw yno adeg y Sioe Frenhinol 2017.
“Mae’n well ‘da fi adeiladu perthynas gyda’r bobl rwy’n dilyn yn hytrach na jysd mynd mewn, gwneud y cyfweliad a gadael,” esboniodd Siôn. “Rwy’n berson naturiol chwilfrydig ac rwy’n hoffi cynnal sgyrsiau a dod i wybod mwy am bobl a’u straeon.”
Ond ydyw hi’n anodd gweld y bobol mae’n dod i nabod yn dioddef?
“Newyddiadurwr ydw i ond mae’n gallu bod yn anodd iawn weithiau. Gyda Meinir, er enghraifft, roedd hi’n trio mor galed i ddod dros y cyffuriau ac o’n i’n meddwl ‘dyw’r fenyw ‘ma ddim yn gallu mynd trwy fwy’. Ond bu farw ei chwaer pan oeddem yn ffilmio’r rhaglen ac mae hi mewn perygl o golli ei phresgripsiwn. Roedd un peth ar ôl y llall felly weithiau mae’n anodd peidio teimlo drostyn nhw,” meddai Siôn.
“Ond dyna sy’n wych am Ein Byd – rwy’n cael dangos emosiwn ac empathi a bod fy hun wrth ohebu.”
Un o’r pethau mwyaf anodd i Siôn oedd cyfweld a mam James Corfield. “Roedd hi’n mor annwyl a hefyd mor barod i siarad ond mae hi’n dioddef ers colli ei mab.”
Ym Mhennod 6 ar nos Iau 14 Chwefror bydd Siôn yn bwrw golwg ar y byd steroids, a’r sefyllfa yng Nghymru.
“Byddaf yn gofyn pam fod dynion ifanc yn teimlo bod angen defnyddio steroids, ydyw hi’n ddiogel, beth yw’r peryglon a hefyd sut maen nhw’n cael gafael yn y steroids,” esboniodd Siôn.
“Mae steroids wedi bod o gwmpas am dipyn – ond mae’r defnydd wedi cynyddu yn ddiweddar ym myd rygbi – mae wedi troi mewn i gamp mor gorfforol. Felly mae cymryd steroids wedi troi mewn i rywbeth naturiol i ddynion ifanc i’w wneud.
“Mae’r steroids yn rhoi mantais iddyn nhw yn y gamp ond maen nhw’n dod yn ddibynnol ar y steroids ac mae sgil-effeithiau hirdymor o ganlyniad. Mae unigolyn o Sir Benfro yn sôn am ei brofiadau gyda steroids ac mae e wedi bron colli popeth oherwydd steroids – ei wraig, ei dy – roedd e bron lladd ei hunan.”
Mae Siôn yn falch iawn o Ein Byd a’r hyn mae’r gyfres wedi ei chyflawni. “Rwy’n meddwl bod Ein Byd yn cynnig rhywbeth ffres a newydd ac rwy’ wrth fy modd yn gweithio ar y gyfres,” meddai Siôn.