Cymraeg
Eisteddfod Llangollen – ‘Pawb yn cyd-dynnu’

Plant ar orymdaith: Yn yr Eisteddfod agor
BYDD TREF fechan Llangollen yng Ngogledd Ddwyrain Cymru yn cael ei thrawsnewid yn fôr o ddawns a cherddoriaeth liwgar o bedwar ban byd yr wythnos hon.
A gydag Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn dathlu ei phen-blwydd yn 70 eleni, bydd S4C yn darlledu’r cystadlu a’r canu, y dawnsio a’r diwylliant wrth i Eisteddfodwyr o bob cwr o’r byd heidio yno i gynnig gwledd i’r glust a’r llygad.
Bydd rhaglenni dyddiol yn ystod y dydd a gyda’r hwyr ar S4C yn ogystal â darllediadau arbennig o gystadleuaeth Côr y Byd ac uchafbwyntiau Cyngerdd Gala arbennig iawn.
Yn rhan o dîm cyflwyno rhaglenni’r dydd eleni mae Morgan Jones ac Elin Llwyd. Y nhw, yn ogystal ag ambell arbenigwr, fydd yn trin a thrafod y cystadlaethau corawl, dawnsio, unawdau ac offerynnol ac yn rhoi blas o fwrlwm y maes a’r dref wrth i ddwsinau o gerddorion a dawnswyr o bedwar ban byd geisio am y gwobrau.
Nia Roberts a Trystan Ellis- Morris fydd yn cyflwyno’r rhaglenni uchafbwyntiau gyda’r nos, yn clywed straeon a hanesion difyr am y cystadleuwyr ac yn rhannu yn nathliadau’r buddugwyr. Cawn hefyd hanes y grwpiau o Gymru sy’n cystadlu yn Llangollen.
Mae Trystan Ellis-Morris bellach yn hen law ar gyflwyno o’r ŵyl ac yn cyfaddef mai cyflwyno o Langollen yw un o’r swyddi gorau yn ei galendr gwaith.
“Dwi’n meddwl mai’r prif reswm dros hyn ydy’r ‘buzz’ mae rhywun yn ei deimlo wrth gerdded adra’ o’r maes yn ôl i’r gwesty ar ôl diwrnod hir a blinedig ac yn sydyn gweld a chlywed canu, perfformiadau, bandiau, dawnsio a phob math o synau a symudiadau ar hyd y strydoedd. Mae pawb yn cyd-dynnu ac yn gwerthfawrogi diwylliant ei gilydd ac yn cael lot fawr o hwyl wrth wneud. Mae hwnna yn brofiad arbennig iawn,” meddai’r cyflwynydd sy’n wreiddiol o Ddeiniolen ond sydd bellach yn byw yn Hammersmith yng Ngorllewin Llundain.
Mae e’n cyfadde’ serch hynny, gyda’r amrywiaeth o ieithoedd a diwylliannau mae’n dod ar eu traws wrth gyflwyno o’r ŵyl, bod ambell gamddealltwriaeth yn digwydd.
“Y flwyddyn gyntaf wnes i gyflwyno, mi oeddwn i’n eitha’ nerfus a ddim cweit yn siŵr beth i ddisgwyl. Mae’n sefyll i reswm y byddai rhyw gymhlethdod iaith yn digwydd o gofio’r acen Deiniolen gryf sy’ gen i! Mi ges i’n nhaflu i ganol y parêd enwog i gyfweld â chriw lliwgar ac annwyl o Dde Affrica. Mi wnes i ofyn yn fy Saesneg gorau, ‘How are you, what do you think of Llangollen?’
Wedi oedi am ‘chydig eiliadau oedd yn teimlo fel oriau, ac edrychiad dryslyd ar wyneb y ddynes, ges i’r ateb, ‘Can you repeat in English please?’ Mi wnes i golli’r plot yn lân a chwerthin heb unrhyw reolaeth gan fod y nyrfs wedi cael y gora’ ohona i!”
Bydd nifer o ieithoedd i’w clywed yn rhaglen uchafbwyntiau’r Cyngerdd Gala, nos Sul, 9 Gorffennaf ar S4C. Yn rhan o’r cyngerdd mae gwaith arbennig, darn aml-ieithog ‘Calling All Dawns’ sy’n cynnwys yr ieithoedd Swahili, Pwyleg, Sansgrit ac iaith y Maori ac sydd wedi ei gyfansoddi gan yr Americanwr Christopher Tin. Mae symudiad agoriadol y darn – ‘Baba Yetu’ yn yr iaith Swahili a daeth y darn i amlygrwydd yn sgil ei ddefnydd fel trac sain i gêm fideo Civilization IV ac enillodd wobr Grammy yn sgil hyn.
Perfformir y gwaith gan gôr rhyngwladol arbennig ynghyd â cherddorfa cwmni Opera Cenedlaethol Cymru a nifer o unawdwyr gan gynnwys y soprano Elin Manahan Thomas o Orseinon yn wreiddiol.
Pinacl y cystadlu yn ystod yr wythnos bydd Cystadleuaeth Côr y Byd 2017 ar y nos Sadwrn. Bydd enillwyr cystadlaethau arbennig y corau ieuenctid, cymysg, meibion, merched a’r categori agored yn cystadlu am anrhydedd Côr y Byd 2017, tlws Luciano Pavarotti a gwobr ariannol o £3,000. Bydd S4C yn darlledu’r gystadleuaeth yn ei chyfanrwydd i gloi wythnos lawn o gystadlu lliwgar.
Llangollen 2017 ar S4C : Mercher 5 Gorffennaf – Sul 9 Gorffennaf – amseroedd yn amrywio
Cymraeg
Pleser o’r Mwyaf

DEWCH i’r Man a’r Lle yn Aberteifi i wrando ar wyth o fawrion y genedl yn cyflwyno pum peth sydd yn datgelu rhywbeth am eu hanes eu hunain, boed hynny ar ffurf hoff gerddi a darnau o ryddiaith neu wrthrychau sydd ag arwyddocâd personol.
Byddwn yn cwrdd yn fisol (heblaw Rhagfyr) rhwng Hydref a Mehefin i godi arian tuag at Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion.
Cynhelir y cyfarfod cyntaf ar ddydd Sadwrn, 19 Hydref am 11yb tan 12.30yp yng nghwmni’r Prifardd Idris Reynolds.
Tocynnau wrth y drws £5. Te, coffi a chacen £1.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Natalie Morgan (ebost: njm84@outlook.com), Helen Thomas (helenteifi@outlook.com) neu Richard Vale (riv1@aber.ac.uk).
Fe fydd y cyfarfodydd hyn yn addas i ddysgwyr profiadol, a byddwn yn paratoi taflenni geirfa i chi.
Dewch yn llu i gefnogi’r Brifwyl trwy joio mas draw!
Cymraeg
Gall Cymru gael ei phweru gan ynni morol

GALL Cymru fod yn wlad sy’n cael ei phweru gan ynni’r môr, mae Lesley Griffiths yn addo.
Mae gan ynni’r môr y potensial i fod wrth wraidd cynlluniau uchelgeisiol i Gymru fod yn wlad sy’n cael ei phweru gan ffynonellau ynni adnewyddadwy, yn ôl Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.
Pan oedd hi’n siarad yn y Gynhadledd ar Ynni’r Môr yn Nulyn ar Dydd Llun (30 Medi), gwnaeth y Gweinidog amlinellu’r llwyddiannau mae busnesau wedi’u cael wrth alluogi ynni’r môr yn ystod y flwyddyn diwethaf, a’r buddsoddiadau yn y gadwyn gyflenwi sy’n caniatáu i hyn ddigwydd.
Rydyn ni’n cydnabod bod y sector yn ifanc iawn, felly rydyn ni wedi buddsoddi mewn deg prosiect sy’n gysylltiedig ag ynni’r môr er mwyn adeiladau capasiti ac arbenigedd yng Nghymru, meddai hi.
Cytunwyd ar dros €71 miliwn o gyllid Ewropeaidd, a fydd yn arwain at fuddsoddiadau gwerth dros €117 miliwn yng Nghymru.
Mae’r busnesau sydd wedi elwa’n cynnwys:
• Ledwood Engineering, Mainstay Marine, MarineSpace a busnesau a leolir yn Sir Benfro yng Ngorllewin Cymru. Mae’r busnesau hyn i gyd wedi manteisio ar y buddsoddiadau gwerth miliynau o bunnoedd, sydd wedi bod o fudd i’w harbenigedd technegol presennol o fewn y sector ynni a sector ynni’r môr.
• Mae Minesto wedi cwblhau prosiect i alluogi’r gwaith o gyflwyno eu technoleg ffrwd lanw Deep Green yn fasnachol yn Holyhead Deep, oddi ar arfordir gorllewinol Ynys Môn. Roedd y prosiect yn cynnwys dylunio, gosod a phrofi dyfais 500 cilowat. Mae cam nesaf y prosiect wedi derbyn €14.9 miliwn ychwanegol, a bydd yn ategu’r gwaith o ddylunio safle 80 megawat oddi ar arfordir Ynys Môn, ochr wrth ochr â dylunio dyfais maint llawn o un megawat o leiaf.
• Gwnaeth y datblygwyr ynni’r tonnau Marine Power Systems, a leolir yn Abertawe, gwblhau eu blwyddyn o dreialon a phrofion morol yn llwyddiannus yr haf hwn, ac mae eu prototeip chwarter maint, WaveSub, wedi cyrraedd ei gerrig milltir critigol. Hefyd dyfarnwyd €13 miliwn iddynt i ddylunio a chynhyrchu dyfais fwy.
Bydd Fframwaith Morol cyntaf Cymru a Fframwaith Datblygu Cenedlaethol newydd hefyd yn rhoi polisi cynllunio strategol ar gyfer defnyddio adnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy ar y tir ac oddi arno.
Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: “Rydyn ni’n benderfynol y bydd ynni’r môr yn rhan allweddol o’n cynlluniau i Gymru fod yn wlad sy’n cael ei phweru gan ffynonellau ynni adnewyddadwy. Mae cyllid gan yr Uned Ewropeaidd wedi bod yn hanfodol wrth gefnogi hyn.
“Rydyn ni wedi gosod targedau uchelgeisiol wrth inni geisio creu Cymru wyrddach lle mae adnoddau’n cael eu rheoli nid yn unig ar gyfer heddiw, ond er budd cenedlaethau’r dyfodol.
“Eleni rydyn ni wedi derbyn cyngor Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd i wneud ein targedau datgarboneiddio yng Nghymru yn fwy uchelgeisiol, wedi cyflwyno deddfwriaeth i fabwysiadu targed o 95% ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr y flwyddyn nesaf, ac rydyn ni’n archwilio sut gallwn ni osod targed o sero yn y dyfodol.
“Mae ynni’r môr a gwynt alltraeth yn rhan hanfodol o’r targedau hyn, wrth inni geisio harneisio ein hadnoddau naturiol i sicrhau manteision tymor hir ar gyfer pawb yng Nghymru.”
Gwnaeth y gweinidog hefyd annog Llywodraeth y DU i fuddsoddi mewn ynni’r môr ac ynni adnewyddadwy yng Nghymru.
Cymraeg
Edrych ar ochr dywyll Cymru

YMWELD â chorneli cudd cymdeithas – dyna hanfod y gyfres S4C Ein Byd – ac weithiau dyw hi ddim yn ddarlun hardd.
Yn ystod y gyfres bresennol mae’r cyflwynydd Siôn Jenkins yn ymchwilio i bynciau dwys gan gynnwys syrjeri tramor a defnydd cyffuriau yn un o ardaloedd Cymru sydd wedi’i henwi’n un o’r ‘hotspots’ heroin gwaethaf ym Mhrydain.
A does dim dal nôl – mae Siôn, sydd yn wreiddiol o Landysilio yn Sir Benfro – yn benderfynol o daflu goleuni ar sawl ochr dywyll o fywyd yng Nghymru.
“Mae’r pethau ‘ma’n mynd ymlaen yng Nghymru, ac efallai ‘dyw pobol ddim eisiau cydnabod hynny; ond mae’n bwysig ein bod ni’n dangos y pynciau hyn, a bod pobol yn cael gwybod am eu presenoldeb yn ein cymdeithas,” meddai Siôn. “Dyw bywyd yng Nghymru ddim yn fêl i gyd a thrwy Ein Byd rwy’ eisiau dal drych i fyny ac adlewyrchu’r darlun go iawn.”
Un o gryfderau Ein Byd yw’r berthynas mae Siôn yn datblygu gyda’r bobol sy’n ymddangos yn y gyfres ac sydd ynghanol neu sydd wedi bod trwy brofiadau anodd.
Yn y bennod ‘Syrjeri Tramor’, mae Siôn yn dilyn merch sy’n mynd i Dwrci i gael llawdriniaeth BBL (Brazilian Butt Lift). Mae Siôn gyda hi cyn, yn ystod ac ar ôl y syrjeri ac o ganlyniad, mae’n cael ymatebion gonest a chignoeth am yr holl boen mae hi wedi dioddef er mwyn creu’r corff delfrydol.
Yn y bennod ‘Cyffuriau’ mae Siôn yn dilyn Meinir, menyw yn ei 50au sydd wedi bod yn gaeth i gyffuriau am bron i 20 mlynedd ac ym mhennod ‘Y Sioe Fawr’ mae Siôn yn cael cyfweliad ecsgliwsif gyda mam James Corfield a fu farw yno adeg y Sioe Frenhinol 2017.
“Mae’n well ‘da fi adeiladu perthynas gyda’r bobl rwy’n dilyn yn hytrach na jysd mynd mewn, gwneud y cyfweliad a gadael,” esboniodd Siôn. “Rwy’n berson naturiol chwilfrydig ac rwy’n hoffi cynnal sgyrsiau a dod i wybod mwy am bobl a’u straeon.”
Ond ydyw hi’n anodd gweld y bobol mae’n dod i nabod yn dioddef?
“Newyddiadurwr ydw i ond mae’n gallu bod yn anodd iawn weithiau. Gyda Meinir, er enghraifft, roedd hi’n trio mor galed i ddod dros y cyffuriau ac o’n i’n meddwl ‘dyw’r fenyw ‘ma ddim yn gallu mynd trwy fwy’. Ond bu farw ei chwaer pan oeddem yn ffilmio’r rhaglen ac mae hi mewn perygl o golli ei phresgripsiwn. Roedd un peth ar ôl y llall felly weithiau mae’n anodd peidio teimlo drostyn nhw,” meddai Siôn.
“Ond dyna sy’n wych am Ein Byd – rwy’n cael dangos emosiwn ac empathi a bod fy hun wrth ohebu.”
Un o’r pethau mwyaf anodd i Siôn oedd cyfweld a mam James Corfield. “Roedd hi’n mor annwyl a hefyd mor barod i siarad ond mae hi’n dioddef ers colli ei mab.”
Ym Mhennod 6 ar nos Iau 14 Chwefror bydd Siôn yn bwrw golwg ar y byd steroids, a’r sefyllfa yng Nghymru.
“Byddaf yn gofyn pam fod dynion ifanc yn teimlo bod angen defnyddio steroids, ydyw hi’n ddiogel, beth yw’r peryglon a hefyd sut maen nhw’n cael gafael yn y steroids,” esboniodd Siôn.
“Mae steroids wedi bod o gwmpas am dipyn – ond mae’r defnydd wedi cynyddu yn ddiweddar ym myd rygbi – mae wedi troi mewn i gamp mor gorfforol. Felly mae cymryd steroids wedi troi mewn i rywbeth naturiol i ddynion ifanc i’w wneud.
“Mae’r steroids yn rhoi mantais iddyn nhw yn y gamp ond maen nhw’n dod yn ddibynnol ar y steroids ac mae sgil-effeithiau hirdymor o ganlyniad. Mae unigolyn o Sir Benfro yn sôn am ei brofiadau gyda steroids ac mae e wedi bron colli popeth oherwydd steroids – ei wraig, ei dy – roedd e bron lladd ei hunan.”
Mae Siôn yn falch iawn o Ein Byd a’r hyn mae’r gyfres wedi ei chyflawni. “Rwy’n meddwl bod Ein Byd yn cynnig rhywbeth ffres a newydd ac rwy’ wrth fy modd yn gweithio ar y gyfres,” meddai Siôn.