Cymraeg
£24 miliwn – y golled ariannol yn sgil cloffni defaid
ANOGIR ffermwyr i gael gwell gafael ar reoli cloffni defaid o fewn eu diadelloedd.
Dengys ymchwil y gallai cloffni gostio £24 miliwn y flwyddyn i’r diwydiant yn y DU mewn gwariant a cholledion cynhyrchu. Gall y problemau a achosir gan gloffni arwain at ddirywiad yng nghyflwr corff, canrannau wyna is, cyfraddau twf is mewn ŵyn a ffrwythlondeb gwael mewn hyrddod.
Un o achosion cloffni yw Contagious Ovine Digital Dermatitis (CODD) sy’n glefyd traed heintus eithaf newydd sy’n effeithio defaid. Mae arolygon wedi dangos y gallai CODD effeithio dros 35% o ddiadelloedd y DU.
Dyma fater a drafodwyd gan y milfeddyg Dr Joe Angell, siaradwr gwadd yn y cyfarfod Cam-YMLAEN diwethaf a gynhaliwyd gan Hybu Cig Cymru (HCC). Cynhaliodd Dr Joe Angell o Filfeddygon y Wern, sydd wedi’u lleoli yn Siroedd Conwy a Dinbych, astudiaeth ym Mhrifysgol Lerpwl ar drin CODD, ac fe’i hariannwyd yn rhannol gan HCC.
Un o’r chwe ffermwr a oedd yn rhan o’r prosiect oedd Llŷr Jones o fferm Derwydd, Llanfihangel Glyn Myfyr. Ers cymryd rhan yn yr astudiaeth, dywed Llŷr fod cloffni yn y ddiadell dan reolaeth ac fel rheol o dan 2% drwy gydol y flwyddyn, sydd dipyn yn is na’r cyfartaledd cenedlaethol. Mae’n parhau i reoli cloffni drwy ddilyn y cynllun 5-pwynt. Meddai: “Gall gweithio gyda’ch milfeddyg i ganfod problemau cloffni a defnyddio pob rhan o’r cynllun 5-pwynt eich helpu i reoli cloffni yn llwyddiannus a gwella effeithiolrwydd eich busnes.”
Yn ôl Dr Joe Angell, tybir mai defaid wedi’u prynu i mewn yw prif ffynhonnell CODD ar fferm. Yn ystod y cyfarfod Cam-YMLAEN a gynhaliwyd yng Ngholeg Pen-y-bont ym mis Mai, wrth reoli clwy traed, dywedodd bod y risg o ddefaid yn datblygu CODD yn lleihau. Mae’n frwd dros y cynllun 5-pwynt ar gyfer clwy traed sy’n golygu trin yn gynnar, brechu, difa, osgoi, a chadw defaid mewn cwarantîn. Negeseuon pwysig eraill a rannodd oedd adnabod yr achos am unrhyw gloffni gan fod y driniaeth yn amrywio yn ôl tarddiad y clwy.
Meddai James Ruggeri, Swyddog Gweithredol Datblygu’r Diwydiant yn HCC: “Mae cynyddu effeithiolrwydd y ddiadell yng Nghymru drwy gynllunio iechyd yn well yn hanfodol, a dyna’r rheswm pam fod astudiaeth Joe yn rhan o bortffolio Ymchwil a Datblygu HCC.
“Pan ariannwyd yr astudiaeth gan HCC yn wreiddiol, ychydig iawn o waith oedd wedi’i wneud ar CODD. Mae’n braf gweld, erbyn heddiw, bod y canfyddiadau a’r argymhellion o’r astudiaeth yn cael eu rhoi ar waith ar nifer o ffermydd ledled Cymru a’r DU.”
Cynhyrchwyd taflen ffeithiau ar ddiwedd y prosiect, a gellir ei lawrlwytho oddi ar wefan HCC:
http://hccmpw.org.uk/publications/farming_and_industry_development/sheep_ management/
Cymraeg
Pleser o’r Mwyaf

DEWCH i’r Man a’r Lle yn Aberteifi i wrando ar wyth o fawrion y genedl yn cyflwyno pum peth sydd yn datgelu rhywbeth am eu hanes eu hunain, boed hynny ar ffurf hoff gerddi a darnau o ryddiaith neu wrthrychau sydd ag arwyddocâd personol.
Byddwn yn cwrdd yn fisol (heblaw Rhagfyr) rhwng Hydref a Mehefin i godi arian tuag at Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion.
Cynhelir y cyfarfod cyntaf ar ddydd Sadwrn, 19 Hydref am 11yb tan 12.30yp yng nghwmni’r Prifardd Idris Reynolds.
Tocynnau wrth y drws £5. Te, coffi a chacen £1.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Natalie Morgan (ebost: njm84@outlook.com), Helen Thomas (helenteifi@outlook.com) neu Richard Vale (riv1@aber.ac.uk).
Fe fydd y cyfarfodydd hyn yn addas i ddysgwyr profiadol, a byddwn yn paratoi taflenni geirfa i chi.
Dewch yn llu i gefnogi’r Brifwyl trwy joio mas draw!
Cymraeg
Gall Cymru gael ei phweru gan ynni morol

GALL Cymru fod yn wlad sy’n cael ei phweru gan ynni’r môr, mae Lesley Griffiths yn addo.
Mae gan ynni’r môr y potensial i fod wrth wraidd cynlluniau uchelgeisiol i Gymru fod yn wlad sy’n cael ei phweru gan ffynonellau ynni adnewyddadwy, yn ôl Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.
Pan oedd hi’n siarad yn y Gynhadledd ar Ynni’r Môr yn Nulyn ar Dydd Llun (30 Medi), gwnaeth y Gweinidog amlinellu’r llwyddiannau mae busnesau wedi’u cael wrth alluogi ynni’r môr yn ystod y flwyddyn diwethaf, a’r buddsoddiadau yn y gadwyn gyflenwi sy’n caniatáu i hyn ddigwydd.
Rydyn ni’n cydnabod bod y sector yn ifanc iawn, felly rydyn ni wedi buddsoddi mewn deg prosiect sy’n gysylltiedig ag ynni’r môr er mwyn adeiladau capasiti ac arbenigedd yng Nghymru, meddai hi.
Cytunwyd ar dros €71 miliwn o gyllid Ewropeaidd, a fydd yn arwain at fuddsoddiadau gwerth dros €117 miliwn yng Nghymru.
Mae’r busnesau sydd wedi elwa’n cynnwys:
• Ledwood Engineering, Mainstay Marine, MarineSpace a busnesau a leolir yn Sir Benfro yng Ngorllewin Cymru. Mae’r busnesau hyn i gyd wedi manteisio ar y buddsoddiadau gwerth miliynau o bunnoedd, sydd wedi bod o fudd i’w harbenigedd technegol presennol o fewn y sector ynni a sector ynni’r môr.
• Mae Minesto wedi cwblhau prosiect i alluogi’r gwaith o gyflwyno eu technoleg ffrwd lanw Deep Green yn fasnachol yn Holyhead Deep, oddi ar arfordir gorllewinol Ynys Môn. Roedd y prosiect yn cynnwys dylunio, gosod a phrofi dyfais 500 cilowat. Mae cam nesaf y prosiect wedi derbyn €14.9 miliwn ychwanegol, a bydd yn ategu’r gwaith o ddylunio safle 80 megawat oddi ar arfordir Ynys Môn, ochr wrth ochr â dylunio dyfais maint llawn o un megawat o leiaf.
• Gwnaeth y datblygwyr ynni’r tonnau Marine Power Systems, a leolir yn Abertawe, gwblhau eu blwyddyn o dreialon a phrofion morol yn llwyddiannus yr haf hwn, ac mae eu prototeip chwarter maint, WaveSub, wedi cyrraedd ei gerrig milltir critigol. Hefyd dyfarnwyd €13 miliwn iddynt i ddylunio a chynhyrchu dyfais fwy.
Bydd Fframwaith Morol cyntaf Cymru a Fframwaith Datblygu Cenedlaethol newydd hefyd yn rhoi polisi cynllunio strategol ar gyfer defnyddio adnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy ar y tir ac oddi arno.
Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: “Rydyn ni’n benderfynol y bydd ynni’r môr yn rhan allweddol o’n cynlluniau i Gymru fod yn wlad sy’n cael ei phweru gan ffynonellau ynni adnewyddadwy. Mae cyllid gan yr Uned Ewropeaidd wedi bod yn hanfodol wrth gefnogi hyn.
“Rydyn ni wedi gosod targedau uchelgeisiol wrth inni geisio creu Cymru wyrddach lle mae adnoddau’n cael eu rheoli nid yn unig ar gyfer heddiw, ond er budd cenedlaethau’r dyfodol.
“Eleni rydyn ni wedi derbyn cyngor Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd i wneud ein targedau datgarboneiddio yng Nghymru yn fwy uchelgeisiol, wedi cyflwyno deddfwriaeth i fabwysiadu targed o 95% ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr y flwyddyn nesaf, ac rydyn ni’n archwilio sut gallwn ni osod targed o sero yn y dyfodol.
“Mae ynni’r môr a gwynt alltraeth yn rhan hanfodol o’r targedau hyn, wrth inni geisio harneisio ein hadnoddau naturiol i sicrhau manteision tymor hir ar gyfer pawb yng Nghymru.”
Gwnaeth y gweinidog hefyd annog Llywodraeth y DU i fuddsoddi mewn ynni’r môr ac ynni adnewyddadwy yng Nghymru.
Cymraeg
Edrych ar ochr dywyll Cymru

YMWELD â chorneli cudd cymdeithas – dyna hanfod y gyfres S4C Ein Byd – ac weithiau dyw hi ddim yn ddarlun hardd.
Yn ystod y gyfres bresennol mae’r cyflwynydd Siôn Jenkins yn ymchwilio i bynciau dwys gan gynnwys syrjeri tramor a defnydd cyffuriau yn un o ardaloedd Cymru sydd wedi’i henwi’n un o’r ‘hotspots’ heroin gwaethaf ym Mhrydain.
A does dim dal nôl – mae Siôn, sydd yn wreiddiol o Landysilio yn Sir Benfro – yn benderfynol o daflu goleuni ar sawl ochr dywyll o fywyd yng Nghymru.
“Mae’r pethau ‘ma’n mynd ymlaen yng Nghymru, ac efallai ‘dyw pobol ddim eisiau cydnabod hynny; ond mae’n bwysig ein bod ni’n dangos y pynciau hyn, a bod pobol yn cael gwybod am eu presenoldeb yn ein cymdeithas,” meddai Siôn. “Dyw bywyd yng Nghymru ddim yn fêl i gyd a thrwy Ein Byd rwy’ eisiau dal drych i fyny ac adlewyrchu’r darlun go iawn.”
Un o gryfderau Ein Byd yw’r berthynas mae Siôn yn datblygu gyda’r bobol sy’n ymddangos yn y gyfres ac sydd ynghanol neu sydd wedi bod trwy brofiadau anodd.
Yn y bennod ‘Syrjeri Tramor’, mae Siôn yn dilyn merch sy’n mynd i Dwrci i gael llawdriniaeth BBL (Brazilian Butt Lift). Mae Siôn gyda hi cyn, yn ystod ac ar ôl y syrjeri ac o ganlyniad, mae’n cael ymatebion gonest a chignoeth am yr holl boen mae hi wedi dioddef er mwyn creu’r corff delfrydol.
Yn y bennod ‘Cyffuriau’ mae Siôn yn dilyn Meinir, menyw yn ei 50au sydd wedi bod yn gaeth i gyffuriau am bron i 20 mlynedd ac ym mhennod ‘Y Sioe Fawr’ mae Siôn yn cael cyfweliad ecsgliwsif gyda mam James Corfield a fu farw yno adeg y Sioe Frenhinol 2017.
“Mae’n well ‘da fi adeiladu perthynas gyda’r bobl rwy’n dilyn yn hytrach na jysd mynd mewn, gwneud y cyfweliad a gadael,” esboniodd Siôn. “Rwy’n berson naturiol chwilfrydig ac rwy’n hoffi cynnal sgyrsiau a dod i wybod mwy am bobl a’u straeon.”
Ond ydyw hi’n anodd gweld y bobol mae’n dod i nabod yn dioddef?
“Newyddiadurwr ydw i ond mae’n gallu bod yn anodd iawn weithiau. Gyda Meinir, er enghraifft, roedd hi’n trio mor galed i ddod dros y cyffuriau ac o’n i’n meddwl ‘dyw’r fenyw ‘ma ddim yn gallu mynd trwy fwy’. Ond bu farw ei chwaer pan oeddem yn ffilmio’r rhaglen ac mae hi mewn perygl o golli ei phresgripsiwn. Roedd un peth ar ôl y llall felly weithiau mae’n anodd peidio teimlo drostyn nhw,” meddai Siôn.
“Ond dyna sy’n wych am Ein Byd – rwy’n cael dangos emosiwn ac empathi a bod fy hun wrth ohebu.”
Un o’r pethau mwyaf anodd i Siôn oedd cyfweld a mam James Corfield. “Roedd hi’n mor annwyl a hefyd mor barod i siarad ond mae hi’n dioddef ers colli ei mab.”
Ym Mhennod 6 ar nos Iau 14 Chwefror bydd Siôn yn bwrw golwg ar y byd steroids, a’r sefyllfa yng Nghymru.
“Byddaf yn gofyn pam fod dynion ifanc yn teimlo bod angen defnyddio steroids, ydyw hi’n ddiogel, beth yw’r peryglon a hefyd sut maen nhw’n cael gafael yn y steroids,” esboniodd Siôn.
“Mae steroids wedi bod o gwmpas am dipyn – ond mae’r defnydd wedi cynyddu yn ddiweddar ym myd rygbi – mae wedi troi mewn i gamp mor gorfforol. Felly mae cymryd steroids wedi troi mewn i rywbeth naturiol i ddynion ifanc i’w wneud.
“Mae’r steroids yn rhoi mantais iddyn nhw yn y gamp ond maen nhw’n dod yn ddibynnol ar y steroids ac mae sgil-effeithiau hirdymor o ganlyniad. Mae unigolyn o Sir Benfro yn sôn am ei brofiadau gyda steroids ac mae e wedi bron colli popeth oherwydd steroids – ei wraig, ei dy – roedd e bron lladd ei hunan.”
Mae Siôn yn falch iawn o Ein Byd a’r hyn mae’r gyfres wedi ei chyflawni. “Rwy’n meddwl bod Ein Byd yn cynnig rhywbeth ffres a newydd ac rwy’ wrth fy modd yn gweithio ar y gyfres,” meddai Siôn.