Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Gwobrau’n dathlu’r gorau o’r diwydiant Twristiaeth

Published

on

Dafydd Elis Thomas: Gweinidog Twristiaeth

MAE GWOBRAU Twristiaeth Cenedlaethol Cymru 2018 yn gwahodd enwebiadau yn awr.

Cynhelir y gwobrau gan Croeso Cymru i ddathlu’r gorau o ddiwydiant twristiaeth Cymru – gan arddangos busnesau twristiaeth Cymru a llwyddiannau’r diwydiant.

Cynhelir y seremoni wobrwyo ddydd Iau, 8 Mawrth 2018 yng Ngwesty’r Celtic Manor, Casnewydd a gwahoddir enwebiadau yn awr ar gyfer amryw o gategorïau.

Mae categorïau’r gwobrau fel a ganlyn:

  • Gwesty Gorau
  • Gwely a Brecwast Gorau
  • Llety Hunan-ddarpar Gorau
  • Maes Carafanau, Gwersylla neu Glampio Gorau
  • Atyniad Gorau
  • Gweithgaredd Gorau
  • Digwyddiad Gorau
  • Lle Gorau i Fwyta
  • Cyrchfan Orau
  • Person Ifanc Twristiaeth y Flwyddyn
  • Gwobr Arloesi Busnesau Twristiaeth

Bydd enillwyr y gwobrau rhanbarthol yn cystadlu yn y Gwobrau Cenedlaethol ym mis Mawrth. Roedd y Gweinidog Twristiaeth, Dafydd Elis Thomas, yn bresennol yn Ngwobrau Twristiaeth Gogledd Cymru wythnos diwethaf, lle y cyhoeddwyd rhai o’r enillwyr rhanbarthol cyntaf a fydd yn cystadlu ar gyfer y Gwobrau Cenedlaethol.

Wrth sôn am y gwobrau, dywedodd y Gweinidog Twristiaeth:​ ​“Bu Gwobrau Twristiaeth Gogledd Cymru yn llwyddiant ysgubol ac mae’n wych gweld yr enillwyr yn awr yn cystadlu yng Ngwobrau Cymru. Rwy’n annog pob busnes twristiaeth ar draws gweddill Cymru i enwebu eu hunain ar gyfer y gwobrau hyn; mae’r ymdrech o gystadlu am wobrau yn gallu bod yn hynod o werth chweil, yn enwedig i godi morâl y tîm a’r staff. Wrth gwrs, mae dweud mai chi yw’r ‘gorau yng Nghymru’ hefyd yn gallu rhoi hwb i’ch busnes o safbwynt marchnata.

“Mae ansawdd yr hyn sydd i’w gynnig gan y diwydiant twristiaeth yng Nghymru yn mynd o nerth i nerth, ac mae’r Gwobrau yn gyfle i bawb ddathlu llwyddiannau’r diwydiant ac arddangos ansawdd rhagorol ein sector twristiaeth bywiog.

“Dyma ein cyfle i roi amlygrwydd i’r diwydiant twristiaeth a thalu teyrnged i’r sawl sy’n ymroddedig ac yn angerddol ynghylch eu busnesau, twristiaeth a Chymru.”

Yn siarad yr wythnos diwethaf yng Ngwobrau Twristiaeth Gogledd Cymru, dywedodd y Cyfarwyddwr Reolwr, Jim Jones fod ansawdd yr ymgeiswyr eleni yn tanlinellu pam bod y rhanbarth yn cael eu gydnabod fwyfwy fel lleoliad o safon byd ac sy’n cynhyrchu £2.8 biliwn bob blwyddyn ac yn cyflogi tua 40,000 o bobl.

Dywedodd: “Mae’r gwobrau wedi bod yn llwyddiannus iawn a hoffwn longyfarch yr enillwyr. Fodd bynnag, yn fy llygaid i mae pob un a enwebwyd yn enillydd ac mae pob un wedi chwarae rhan i wneud eleni yn flwyddyn lwyddiannus ar gyfer Twristiaeth Gogledd Cymru.

“Mae’r digwyddiad hwn yn arddangos y gorau o ogledd Cymru ac rydym wedi gweld cymaint o enwebiadau anhygoel. Bydd nifer o’r enillwyr bellach yn mynd ymlaen i gynrychioli Gogledd Cymru yng Ngwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Croeso Cymru yn 2018 a dymunaf bob llwyddiant iddynt.”

Gall busnesau twristiaeth enwebu eu hunain, neu gall unrhyw un enwebu busnes sy’n enillydd teilwng yn eu barn hwy. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma (dolen allanol). Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw dydd Gwener, 12 Ionawr 2018.

Cymraeg

Pleser o’r Mwyaf

Published

on

By

DEWCH i’r Man a’r Lle yn Aberteifi i wrando ar wyth o fawrion y genedl yn cyflwyno pum peth sydd yn datgelu rhywbeth am eu hanes eu hunain, boed hynny ar ffurf hoff gerddi a darnau o ryddiaith neu wrthrychau sydd ag arwyddocâd personol.

Byddwn yn cwrdd yn fisol (heblaw Rhagfyr) rhwng Hydref a Mehefin i godi arian tuag at Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion.

Cynhelir y cyfarfod cyntaf ar ddydd Sadwrn, 19 Hydref am 11yb tan 12.30yp yng nghwmni’r Prifardd Idris Reynolds.

Tocynnau wrth y drws £5. Te, coffi a chacen £1.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Natalie Morgan (ebost: njm84@outlook.com), Helen Thomas (helenteifi@outlook.com) neu Richard Vale (riv1@aber.ac.uk).

Fe fydd y cyfarfodydd hyn yn addas i ddysgwyr profiadol, a byddwn yn paratoi taflenni geirfa i chi.

Dewch yn llu i gefnogi’r Brifwyl trwy joio mas draw!

Continue Reading

Cymraeg

Gall Cymru gael ei phweru gan ynni morol

Published

on

By

GALL Cymru fod yn wlad sy’n cael ei phweru gan ynni’r môr, mae Lesley Griffiths yn addo.

Mae gan ynni’r môr y potensial i fod wrth wraidd cynlluniau uchelgeisiol i Gymru fod yn wlad sy’n cael ei phweru gan ffynonellau ynni adnewyddadwy, yn ôl Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

Pan oedd hi’n siarad yn y Gynhadledd ar Ynni’r Môr yn Nulyn ar Dydd Llun (30 Medi), gwnaeth y Gweinidog amlinellu’r llwyddiannau mae busnesau wedi’u cael wrth alluogi ynni’r môr yn ystod y flwyddyn diwethaf, a’r buddsoddiadau yn y gadwyn gyflenwi sy’n caniatáu i hyn ddigwydd.

Rydyn ni’n cydnabod bod y sector yn ifanc iawn, felly rydyn ni wedi buddsoddi mewn deg prosiect sy’n gysylltiedig ag ynni’r môr er mwyn adeiladau capasiti ac arbenigedd yng Nghymru, meddai hi.

Cytunwyd ar dros €71 miliwn o gyllid Ewropeaidd, a fydd yn arwain at fuddsoddiadau gwerth dros €117 miliwn yng Nghymru.

Mae’r busnesau sydd wedi elwa’n cynnwys:

• Ledwood Engineering, Mainstay Marine, MarineSpace a busnesau a leolir yn Sir Benfro yng Ngorllewin Cymru. Mae’r busnesau hyn i gyd wedi manteisio ar y buddsoddiadau gwerth miliynau o bunnoedd, sydd wedi bod o fudd i’w harbenigedd technegol presennol o fewn y sector ynni a sector ynni’r môr.

• Mae Minesto wedi cwblhau prosiect i alluogi’r gwaith o gyflwyno eu technoleg ffrwd lanw Deep Green yn fasnachol yn Holyhead Deep, oddi ar arfordir gorllewinol Ynys Môn. Roedd y prosiect yn cynnwys dylunio, gosod a phrofi dyfais 500 cilowat. Mae cam nesaf y prosiect wedi derbyn €14.9 miliwn ychwanegol, a bydd yn ategu’r gwaith o ddylunio safle 80 megawat oddi ar arfordir Ynys Môn, ochr wrth ochr â dylunio dyfais maint llawn o un megawat o leiaf.

• Gwnaeth y datblygwyr ynni’r tonnau Marine Power Systems, a leolir yn Abertawe, gwblhau eu blwyddyn o dreialon a phrofion morol yn llwyddiannus yr haf hwn, ac mae eu prototeip chwarter maint, WaveSub, wedi cyrraedd ei gerrig milltir critigol. Hefyd dyfarnwyd €13 miliwn iddynt i ddylunio a chynhyrchu dyfais fwy.

Bydd Fframwaith Morol cyntaf Cymru a Fframwaith Datblygu Cenedlaethol newydd hefyd yn rhoi polisi cynllunio strategol ar gyfer defnyddio adnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy ar y tir ac oddi arno.

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: “Rydyn ni’n benderfynol y bydd ynni’r môr yn rhan allweddol o’n cynlluniau i Gymru fod yn wlad sy’n cael ei phweru gan ffynonellau ynni adnewyddadwy. Mae cyllid gan yr Uned Ewropeaidd wedi bod yn hanfodol wrth gefnogi hyn.

“Rydyn ni wedi gosod targedau uchelgeisiol wrth inni geisio creu Cymru wyrddach lle mae adnoddau’n cael eu rheoli nid yn unig ar gyfer heddiw, ond er budd cenedlaethau’r dyfodol.

“Eleni rydyn ni wedi derbyn cyngor Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd i wneud ein targedau datgarboneiddio yng Nghymru yn fwy uchelgeisiol, wedi cyflwyno deddfwriaeth i fabwysiadu targed o 95% ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr y flwyddyn nesaf, ac rydyn ni’n archwilio sut gallwn ni osod targed o sero yn y dyfodol.

“Mae ynni’r môr a gwynt alltraeth yn rhan hanfodol o’r targedau hyn, wrth inni geisio harneisio ein hadnoddau naturiol i sicrhau manteision tymor hir ar gyfer pawb yng Nghymru.”

Gwnaeth y gweinidog hefyd annog Llywodraeth y DU i fuddsoddi mewn ynni’r môr ac ynni adnewyddadwy yng Nghymru.

Continue Reading

Cymraeg

Edrych ar ochr dywyll Cymru

Published

on

By

YMWELD â chorneli cudd cymdeithas – dyna hanfod y gyfres S4C Ein Byd – ac weithiau dyw hi ddim yn ddarlun hardd.

Yn ystod y gyfres bresennol mae’r cyflwynydd Siôn Jenkins yn ymchwilio i bynciau dwys gan gynnwys syrjeri tramor a defnydd cyffuriau yn un o ardaloedd Cymru sydd wedi’i henwi’n un o’r ‘hotspots’ heroin gwaethaf ym Mhrydain.

A does dim dal nôl – mae Siôn, sydd yn wreiddiol o Landysilio yn Sir Benfro – yn benderfynol o daflu goleuni ar sawl ochr dywyll o fywyd yng Nghymru.

“Mae’r pethau ‘ma’n mynd ymlaen yng Nghymru, ac efallai ‘dyw pobol ddim eisiau cydnabod hynny; ond mae’n bwysig ein bod ni’n dangos y pynciau hyn, a bod pobol yn cael gwybod am eu presenoldeb yn ein cymdeithas,” meddai Siôn. “Dyw bywyd yng Nghymru ddim yn fêl i gyd a thrwy Ein Byd rwy’ eisiau dal drych i fyny ac adlewyrchu’r darlun go iawn.”

Un o gryfderau Ein Byd yw’r berthynas mae Siôn yn datblygu gyda’r bobol sy’n ymddangos yn y gyfres ac sydd ynghanol neu sydd wedi bod trwy brofiadau anodd.

Yn y bennod ‘Syrjeri Tramor’, mae Siôn yn dilyn merch sy’n mynd i Dwrci i gael llawdriniaeth BBL (Brazilian Butt Lift). Mae Siôn gyda hi cyn, yn ystod ac ar ôl y syrjeri ac o ganlyniad, mae’n cael ymatebion gonest a chignoeth am yr holl boen mae hi wedi dioddef er mwyn creu’r corff delfrydol.

Yn y bennod ‘Cyffuriau’ mae Siôn yn dilyn Meinir, menyw yn ei 50au sydd wedi bod yn gaeth i gyffuriau am bron i 20 mlynedd ac ym mhennod ‘Y Sioe Fawr’ mae Siôn yn cael cyfweliad ecsgliwsif gyda mam James Corfield a fu farw yno adeg y Sioe Frenhinol 2017.

“Mae’n well ‘da fi adeiladu perthynas gyda’r bobl rwy’n dilyn yn hytrach na jysd mynd mewn, gwneud y cyfweliad a gadael,” esboniodd Siôn. “Rwy’n berson naturiol chwilfrydig ac rwy’n hoffi cynnal sgyrsiau a dod i wybod mwy am bobl a’u straeon.”

Ond ydyw hi’n anodd gweld y bobol mae’n dod i nabod yn dioddef?

“Newyddiadurwr ydw i ond mae’n gallu bod yn anodd iawn weithiau. Gyda Meinir, er enghraifft, roedd hi’n trio mor galed i ddod dros y cyffuriau ac o’n i’n meddwl ‘dyw’r fenyw ‘ma ddim yn gallu mynd trwy fwy’. Ond bu farw ei chwaer pan oeddem yn ffilmio’r rhaglen ac mae hi mewn perygl o golli ei phresgripsiwn. Roedd un peth ar ôl y llall felly weithiau mae’n anodd peidio teimlo drostyn nhw,” meddai Siôn.

“Ond dyna sy’n wych am Ein Byd – rwy’n cael dangos emosiwn ac empathi a bod fy hun wrth ohebu.”

Un o’r pethau mwyaf anodd i Siôn oedd cyfweld a mam James Corfield. “Roedd hi’n mor annwyl a hefyd mor barod i siarad ond mae hi’n dioddef ers colli ei mab.”

Ym Mhennod 6 ar nos Iau 14 Chwefror bydd Siôn yn bwrw golwg ar y byd steroids, a’r sefyllfa yng Nghymru.

“Byddaf yn gofyn pam fod dynion ifanc yn teimlo bod angen defnyddio steroids, ydyw hi’n ddiogel, beth yw’r peryglon a hefyd sut maen nhw’n cael gafael yn y steroids,” esboniodd Siôn.

“Mae steroids wedi bod o gwmpas am dipyn – ond mae’r defnydd wedi cynyddu yn ddiweddar ym myd rygbi – mae wedi troi mewn i gamp mor gorfforol. Felly mae cymryd steroids wedi troi mewn i rywbeth naturiol i ddynion ifanc i’w wneud.

“Mae’r steroids yn rhoi mantais iddyn nhw yn y gamp ond maen nhw’n dod yn ddibynnol ar y steroids ac mae sgil-effeithiau hirdymor o ganlyniad. Mae unigolyn o Sir Benfro yn sôn am ei brofiadau gyda steroids ac mae e wedi bron colli popeth oherwydd steroids – ei wraig, ei dy – roedd e bron lladd ei hunan.”

Mae Siôn yn falch iawn o Ein Byd a’r hyn mae’r gyfres wedi ei chyflawni. “Rwy’n meddwl bod Ein Byd yn cynnig rhywbeth ffres a newydd ac rwy’ wrth fy modd yn gweithio ar y gyfres,” meddai Siôn.

Continue Reading

Popular This Week

© 2019 Herald Newspapers PLC. All content is correct at the time of publication.