Cymraeg
Mae BBC Radio Cymru 2 wedi lansio

MAE’N ddiwrnod hanesyddol ym maes darlledu Cymraeg.
O Dydd Llun, 29 Ionawr, BBC Radio Cymru 2 – gwasanaeth radio Cymraeg newydd y BBC – yn wedi ar yr awyr
Am y tro cyntaf ers i BBC Radio Cymru gael ei sefydlu 40 mlynedd yn ôl, bydd gwrandawyr yn cael dewis o raglenni Cymraeg yn y bore. Bydd y Post Cyntaf yn dal i gynnig newyddion ac i ddadansoddi, tra bydd y Sioe Frecwast, y rhaglen amser brecwast ddyddiol newydd ar BBC Radio Cymru 2, yn darparu rhaglen amgen i deuluoedd gydag adloniant, cerddoriaeth a sgyrsiau yn y Gymraeg.
SUT I WRANDO AR BBC RADIO CYMRU 2
Mae BBC Radio Cymru 2 ar gael ar radio digidol. Bydd llawer o setiau digidol yn diweddaru’n awtomatig ac yn darganfod BBC Radio Cymru 2 heb gymorth. Fel arall, gall gwrandawyr ddewis yr opsiwn Tiwnio neu Sganio’n Awtomatig i ychwanegu BBC Radio Cymru 2 at eu rhestr o orsafoedd radio.
Gallwch wrando ar y Sioe Frecwast yn fyw – ac ar unrhyw rifyn o’r 30 diwrnod diwethaf – ar ap BBC iPlayer Radio ac ar bbc.co.uk/radiocymru2
Bydd BBC Radio Cymru 2 ar y teledu: Freeview, YouView, BT TV, a Talk Talk TV – sianel 721; Sky, sianel 0154; Freesat, sianel 718 (a 735 y tu allan i Gymru).
Dywedodd Tony Hall, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC: “Rwy’n falch iawn bod y Siarter newydd wedi’n galluogi ni i gryfhau ein gwasanaethau ar gyfer cynulleidfaoedd Cymraeg ac i gynnig dewis gwirioneddol i’n gwrandawyr radio am y tro cyntaf yn y Gymraeg.”
Dywedodd Betsan Powys, Golygydd BBC Radio Cymru: “O Dydd Llun ymlaen, gall gwrandawyr ledled Cymru sydd eisiau gwrando ar wasanaeth radio Cymraeg ddewis – newyddion, chwaraeon a digon o ddadansoddi gyda thîm y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru neu’r Sioe Frecwast ar BBC Radio Cymru 2.
“Mae 40 mlynedd ers i’r BBC roi ei ffydd mewn darlledu Cymraeg a lansio BBC Radio Cymru. A dyma ni unwaith eto – cam hyderus arall, yn cael ei gymryd yn 2017, gyda dewis go iawn ar yr awyr yn 2018. Dydy’r broses o gael BBC Radio Cymru 2 ar yr awyr heb fod yn hawdd – diolch i bawb a wnaeth helpu i sicrhau bod hynny’n digwydd.”
Mae mudiad iaith wedi croesawu lansiad Radio Cymru 2 gan ddweud ei fod yn ‘gam yn y cyfeiriad iawn’ a bod angen datganoli pwerau darlledu i Gymru er mwyn normaleiddio’r Gymraeg ar draws y cyfryngau.
Meddai Aled Powell, Cadeirydd Grŵp Digidol Cymdeithas yr Iaith: “Mae’n adeg i ddathlu’r cam yma i’r cyfeiriad iawn, cam tuag at sicrhau bod pawb yn gallu dewis byw eu bywydau yn Gymraeg. All un orsaf ddim bod yn bopeth i bawb, felly rydym yn croesawu bod mwy o amrywiaeth o ran cynnwys fel bod gan wrandawyr rhywfaint o ddewis. Mawr obeithiwn y daw cadarnhad y bydd yr orsaf newydd hon yn un barhaol ac yn wasanaeth lawn yn y pendraw. Rydym yn gwybod bod staff Radio Cymru wedi gweithio’n galed iawn ar y fenter hon ac maen nhw’n haeddu pob llwyddiant. Wrth edrych ymlaen, mae’r angen i ddatganoli darlledu yn fwy nag erioed er mwyn osgoi sefyllfa ble mae un darparwr yn dominyddu ein cyfryngau yng Nghymru, yn enwedig yn y Gymraeg.”
Ychwanegodd: “Dan y gyfundrefn bresennol o reoleiddio o San Steffan, rydyn ni’n gweld a chlywed llai a llai o Gymraeg ar ein cyfryngau lleol a masnachol. Wedi dirywiad difrifol y Gymraeg ar orsafoedd fel Radio Ceredigion a Radio Sir Gâr, mae gwir angen atal hyn drwy ddatganoli grymoedd darlledu i’r Senedd yng Nghymru.
“Mae’r ddogfen ymchwil rydyn ni wedi cyhoeddi yn dangos drwy ddatganoli darlledu y bydd modd buddsoddi degau o filiynau o bunnau’n fwy yn darlledu yng Nghymru, gan sefydlu tair gorsaf radio a thair sianel teledu Cymraeg yn ogystal â chynnal rhai dwyieithog. Felly mae’r ymgyrch dros ragor o wasanaethau yn parhau. Os ydym am gael gwasanaethau teilwng i Gymru a’r Gymraeg, a’r rheini gan blwraliaeth o ddarparwyr, mae’n rhaid i bobl Cymru allu llywio ein system gyfryngol ein hunain.”
Cymraeg
Pleser o’r Mwyaf

DEWCH i’r Man a’r Lle yn Aberteifi i wrando ar wyth o fawrion y genedl yn cyflwyno pum peth sydd yn datgelu rhywbeth am eu hanes eu hunain, boed hynny ar ffurf hoff gerddi a darnau o ryddiaith neu wrthrychau sydd ag arwyddocâd personol.
Byddwn yn cwrdd yn fisol (heblaw Rhagfyr) rhwng Hydref a Mehefin i godi arian tuag at Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion.
Cynhelir y cyfarfod cyntaf ar ddydd Sadwrn, 19 Hydref am 11yb tan 12.30yp yng nghwmni’r Prifardd Idris Reynolds.
Tocynnau wrth y drws £5. Te, coffi a chacen £1.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Natalie Morgan (ebost: njm84@outlook.com), Helen Thomas (helenteifi@outlook.com) neu Richard Vale (riv1@aber.ac.uk).
Fe fydd y cyfarfodydd hyn yn addas i ddysgwyr profiadol, a byddwn yn paratoi taflenni geirfa i chi.
Dewch yn llu i gefnogi’r Brifwyl trwy joio mas draw!
Cymraeg
Gall Cymru gael ei phweru gan ynni morol

GALL Cymru fod yn wlad sy’n cael ei phweru gan ynni’r môr, mae Lesley Griffiths yn addo.
Mae gan ynni’r môr y potensial i fod wrth wraidd cynlluniau uchelgeisiol i Gymru fod yn wlad sy’n cael ei phweru gan ffynonellau ynni adnewyddadwy, yn ôl Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.
Pan oedd hi’n siarad yn y Gynhadledd ar Ynni’r Môr yn Nulyn ar Dydd Llun (30 Medi), gwnaeth y Gweinidog amlinellu’r llwyddiannau mae busnesau wedi’u cael wrth alluogi ynni’r môr yn ystod y flwyddyn diwethaf, a’r buddsoddiadau yn y gadwyn gyflenwi sy’n caniatáu i hyn ddigwydd.
Rydyn ni’n cydnabod bod y sector yn ifanc iawn, felly rydyn ni wedi buddsoddi mewn deg prosiect sy’n gysylltiedig ag ynni’r môr er mwyn adeiladau capasiti ac arbenigedd yng Nghymru, meddai hi.
Cytunwyd ar dros €71 miliwn o gyllid Ewropeaidd, a fydd yn arwain at fuddsoddiadau gwerth dros €117 miliwn yng Nghymru.
Mae’r busnesau sydd wedi elwa’n cynnwys:
• Ledwood Engineering, Mainstay Marine, MarineSpace a busnesau a leolir yn Sir Benfro yng Ngorllewin Cymru. Mae’r busnesau hyn i gyd wedi manteisio ar y buddsoddiadau gwerth miliynau o bunnoedd, sydd wedi bod o fudd i’w harbenigedd technegol presennol o fewn y sector ynni a sector ynni’r môr.
• Mae Minesto wedi cwblhau prosiect i alluogi’r gwaith o gyflwyno eu technoleg ffrwd lanw Deep Green yn fasnachol yn Holyhead Deep, oddi ar arfordir gorllewinol Ynys Môn. Roedd y prosiect yn cynnwys dylunio, gosod a phrofi dyfais 500 cilowat. Mae cam nesaf y prosiect wedi derbyn €14.9 miliwn ychwanegol, a bydd yn ategu’r gwaith o ddylunio safle 80 megawat oddi ar arfordir Ynys Môn, ochr wrth ochr â dylunio dyfais maint llawn o un megawat o leiaf.
• Gwnaeth y datblygwyr ynni’r tonnau Marine Power Systems, a leolir yn Abertawe, gwblhau eu blwyddyn o dreialon a phrofion morol yn llwyddiannus yr haf hwn, ac mae eu prototeip chwarter maint, WaveSub, wedi cyrraedd ei gerrig milltir critigol. Hefyd dyfarnwyd €13 miliwn iddynt i ddylunio a chynhyrchu dyfais fwy.
Bydd Fframwaith Morol cyntaf Cymru a Fframwaith Datblygu Cenedlaethol newydd hefyd yn rhoi polisi cynllunio strategol ar gyfer defnyddio adnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy ar y tir ac oddi arno.
Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: “Rydyn ni’n benderfynol y bydd ynni’r môr yn rhan allweddol o’n cynlluniau i Gymru fod yn wlad sy’n cael ei phweru gan ffynonellau ynni adnewyddadwy. Mae cyllid gan yr Uned Ewropeaidd wedi bod yn hanfodol wrth gefnogi hyn.
“Rydyn ni wedi gosod targedau uchelgeisiol wrth inni geisio creu Cymru wyrddach lle mae adnoddau’n cael eu rheoli nid yn unig ar gyfer heddiw, ond er budd cenedlaethau’r dyfodol.
“Eleni rydyn ni wedi derbyn cyngor Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd i wneud ein targedau datgarboneiddio yng Nghymru yn fwy uchelgeisiol, wedi cyflwyno deddfwriaeth i fabwysiadu targed o 95% ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr y flwyddyn nesaf, ac rydyn ni’n archwilio sut gallwn ni osod targed o sero yn y dyfodol.
“Mae ynni’r môr a gwynt alltraeth yn rhan hanfodol o’r targedau hyn, wrth inni geisio harneisio ein hadnoddau naturiol i sicrhau manteision tymor hir ar gyfer pawb yng Nghymru.”
Gwnaeth y gweinidog hefyd annog Llywodraeth y DU i fuddsoddi mewn ynni’r môr ac ynni adnewyddadwy yng Nghymru.
Cymraeg
Edrych ar ochr dywyll Cymru

YMWELD â chorneli cudd cymdeithas – dyna hanfod y gyfres S4C Ein Byd – ac weithiau dyw hi ddim yn ddarlun hardd.
Yn ystod y gyfres bresennol mae’r cyflwynydd Siôn Jenkins yn ymchwilio i bynciau dwys gan gynnwys syrjeri tramor a defnydd cyffuriau yn un o ardaloedd Cymru sydd wedi’i henwi’n un o’r ‘hotspots’ heroin gwaethaf ym Mhrydain.
A does dim dal nôl – mae Siôn, sydd yn wreiddiol o Landysilio yn Sir Benfro – yn benderfynol o daflu goleuni ar sawl ochr dywyll o fywyd yng Nghymru.
“Mae’r pethau ‘ma’n mynd ymlaen yng Nghymru, ac efallai ‘dyw pobol ddim eisiau cydnabod hynny; ond mae’n bwysig ein bod ni’n dangos y pynciau hyn, a bod pobol yn cael gwybod am eu presenoldeb yn ein cymdeithas,” meddai Siôn. “Dyw bywyd yng Nghymru ddim yn fêl i gyd a thrwy Ein Byd rwy’ eisiau dal drych i fyny ac adlewyrchu’r darlun go iawn.”
Un o gryfderau Ein Byd yw’r berthynas mae Siôn yn datblygu gyda’r bobol sy’n ymddangos yn y gyfres ac sydd ynghanol neu sydd wedi bod trwy brofiadau anodd.
Yn y bennod ‘Syrjeri Tramor’, mae Siôn yn dilyn merch sy’n mynd i Dwrci i gael llawdriniaeth BBL (Brazilian Butt Lift). Mae Siôn gyda hi cyn, yn ystod ac ar ôl y syrjeri ac o ganlyniad, mae’n cael ymatebion gonest a chignoeth am yr holl boen mae hi wedi dioddef er mwyn creu’r corff delfrydol.
Yn y bennod ‘Cyffuriau’ mae Siôn yn dilyn Meinir, menyw yn ei 50au sydd wedi bod yn gaeth i gyffuriau am bron i 20 mlynedd ac ym mhennod ‘Y Sioe Fawr’ mae Siôn yn cael cyfweliad ecsgliwsif gyda mam James Corfield a fu farw yno adeg y Sioe Frenhinol 2017.
“Mae’n well ‘da fi adeiladu perthynas gyda’r bobl rwy’n dilyn yn hytrach na jysd mynd mewn, gwneud y cyfweliad a gadael,” esboniodd Siôn. “Rwy’n berson naturiol chwilfrydig ac rwy’n hoffi cynnal sgyrsiau a dod i wybod mwy am bobl a’u straeon.”
Ond ydyw hi’n anodd gweld y bobol mae’n dod i nabod yn dioddef?
“Newyddiadurwr ydw i ond mae’n gallu bod yn anodd iawn weithiau. Gyda Meinir, er enghraifft, roedd hi’n trio mor galed i ddod dros y cyffuriau ac o’n i’n meddwl ‘dyw’r fenyw ‘ma ddim yn gallu mynd trwy fwy’. Ond bu farw ei chwaer pan oeddem yn ffilmio’r rhaglen ac mae hi mewn perygl o golli ei phresgripsiwn. Roedd un peth ar ôl y llall felly weithiau mae’n anodd peidio teimlo drostyn nhw,” meddai Siôn.
“Ond dyna sy’n wych am Ein Byd – rwy’n cael dangos emosiwn ac empathi a bod fy hun wrth ohebu.”
Un o’r pethau mwyaf anodd i Siôn oedd cyfweld a mam James Corfield. “Roedd hi’n mor annwyl a hefyd mor barod i siarad ond mae hi’n dioddef ers colli ei mab.”
Ym Mhennod 6 ar nos Iau 14 Chwefror bydd Siôn yn bwrw golwg ar y byd steroids, a’r sefyllfa yng Nghymru.
“Byddaf yn gofyn pam fod dynion ifanc yn teimlo bod angen defnyddio steroids, ydyw hi’n ddiogel, beth yw’r peryglon a hefyd sut maen nhw’n cael gafael yn y steroids,” esboniodd Siôn.
“Mae steroids wedi bod o gwmpas am dipyn – ond mae’r defnydd wedi cynyddu yn ddiweddar ym myd rygbi – mae wedi troi mewn i gamp mor gorfforol. Felly mae cymryd steroids wedi troi mewn i rywbeth naturiol i ddynion ifanc i’w wneud.
“Mae’r steroids yn rhoi mantais iddyn nhw yn y gamp ond maen nhw’n dod yn ddibynnol ar y steroids ac mae sgil-effeithiau hirdymor o ganlyniad. Mae unigolyn o Sir Benfro yn sôn am ei brofiadau gyda steroids ac mae e wedi bron colli popeth oherwydd steroids – ei wraig, ei dy – roedd e bron lladd ei hunan.”
Mae Siôn yn falch iawn o Ein Byd a’r hyn mae’r gyfres wedi ei chyflawni. “Rwy’n meddwl bod Ein Byd yn cynnig rhywbeth ffres a newydd ac rwy’ wrth fy modd yn gweithio ar y gyfres,” meddai Siôn.