Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Teitlau Bocsio Ewrop a Chymru yn y fantol – yn fyw ar S4C

Published

on

Ashley Brace: Ar S4C

GORNEST am deitl Pencampwriaeth Pwysau Bantam Ewrop fydd uchafbwynt noson o focsio ym Merthyr ar nos Wener 15 Rhagfyr, ac mi fydd y ffeit fawr yn cael ei dangos yn fyw ar S4C – y tro cyntaf i’r sianel ddarlledu bocsio yn fyw.

Ashley Brace o Lyn Ebwy, y Pencampwr Pwysau Bantam WBC Rhyngwladol, fydd yn ymladd Melania Sorrcoche o Sbaen am y teitl Ewropeaidd yng Nghanolfan Hamdden Merthyr. Bydd y noson, sydd wedi ei threfnu gan Sanigar Events, hefyd yn cynnwys dwy ornest am wregysau Bencampwriaeth Cymru.

Bydd y rhaglen ar S4C yn dechrau am 9.30 yr hwyr, ar nos Wener 15 Rhagfyr, gyda Rhys ap William yn cyflwyno a Gareth Roberts yn y blwch sylwebu.

Dywedodd hyrwyddwr y noson, Jamie Sanigar: “Bydd y noson yn un hanesyddol i focsio yng Nghymru ac rydw i’n falch iawn ein bod ni wedi medru sicrhau gornest gartref wrth i Ashley Brace gystadlu am Bencampwriaeth Ewrop. Dyma gyfle euraidd i Ashley ennill pencampwriaeth fawr a’i rhoi mewn safle gwych i gystadlu am deitlau byd yn 2018. Mae hefyd yn hwb fawr i’r gamp yng Nghymru fod y cyfan yn cael ei ddarlledu yn fyw ar S4C.”

Yn ei gyrfa hyd yma mae’r bocsiwr 26 oed, Ashley Brace, wedi ennill pob un o’i saith gornest. Ym mis Ebrill fe drechodd Alexandra Vlajk o Hwngari yng Nglyn Ebwy i hawlio’r bencampwriaeth Pwysau Bantam WBC Rhyngwladol. Mae hi hefyd wedi dweud y buasai’n dymuno ymladd yn erbyn y pencampwr Olympaidd dwbl, Nicola Adams, yn y dyfodol.

Mae gan ei gwrthwynebydd Sorroche, sy’n 27 oed, record o 12 buddugoliaeth, dwy golled ac un gornest cyfartal, ac mae hi’n drydydd ar restr detholion Ewrop. Fe gystadlodd am y gwregys WBA Pwysau Bantam y Byd y llynedd, ond fe gollodd ar benderfyniad hollt.

Dywedodd Comisiynydd Chwaraeon S4C, Sue Butler: “Am y tro gyntaf bydd S4C yn darlledu noson o focsio yn fyw ac ry’ ni’n gobeithio am noson i’w chofio. Mae gyrfa Ashley Brace yn mynd o nerth i nerth ac wrth iddi gystadlu am Bencampwriaeth Ewrop, ry’ ni’n falch o allu dangos yr ornest i’r genedl a thu hwnt.”

Cyn i Brace a Sorroche gamu i’r sgwâr, bydd dwy ornest arall am wregysau Bencampwriaeth Cymru. Yn y gyntaf bydd Gavin Gwynne o Ferthyr yn herio Henry Janes o Gaerdydd, am Bencampwriaeth adran pwysau ysgafn Cymru. Mae Gwynne yn brolio record berffaith o saith buddugoliaeth heb golli ac fe fydd yn siŵr o dderbyn anogaeth gref gan y cefnogwyr lleol.

10 buddugoliaeth, 21 colled a dau ornest cyfartal ydi record Henry Janes yn y sgwâr hyd yn hyn, ond ar ôl iddo ennill tair a sicrhau dau ornest cyfartal yn y flwyddyn ddiwethaf, bydd Janes yn hyderus wrth baratoi ar gyfer yr ornest yma.

Bydd y Bencampwriaeth Pwysau is drwm Cymru hefyd yn y fantol ym Merthyr, wrth i Nathan Thorley o Gaerdydd ymladd yn erbyn Jermaine Asare o Bontypridd.

Mae Thorley eisoes di ennill pob un o’i saith ornest hyd yn hyn, tra bod Asare wedi colli dwy ac ennill ar saith achlysur. Mae’r ddau ymladdwr wedi ennill medalau efydd dros Gymru yng Ngemau’r Gymanwlad fel amaturiaid, ac mae’r ddau yn cael ei ystyried fel paffwyr pwerus.

Bydd gornestau eraill y noson yn cael eu cyhoeddi dros yr wythnosau i’w ddod. Y cwmni cynhyrchu, Cwmni Media Atom, fydd yn darparu’r rhaglen ar ran S4C.

Continue Reading

Cymraeg

Pleser o’r Mwyaf

Published

on

By

DEWCH i’r Man a’r Lle yn Aberteifi i wrando ar wyth o fawrion y genedl yn cyflwyno pum peth sydd yn datgelu rhywbeth am eu hanes eu hunain, boed hynny ar ffurf hoff gerddi a darnau o ryddiaith neu wrthrychau sydd ag arwyddocâd personol.

Byddwn yn cwrdd yn fisol (heblaw Rhagfyr) rhwng Hydref a Mehefin i godi arian tuag at Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion.

Cynhelir y cyfarfod cyntaf ar ddydd Sadwrn, 19 Hydref am 11yb tan 12.30yp yng nghwmni’r Prifardd Idris Reynolds.

Tocynnau wrth y drws £5. Te, coffi a chacen £1.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Natalie Morgan (ebost: njm84@outlook.com), Helen Thomas (helenteifi@outlook.com) neu Richard Vale (riv1@aber.ac.uk).

Fe fydd y cyfarfodydd hyn yn addas i ddysgwyr profiadol, a byddwn yn paratoi taflenni geirfa i chi.

Dewch yn llu i gefnogi’r Brifwyl trwy joio mas draw!

Continue Reading

Cymraeg

Gall Cymru gael ei phweru gan ynni morol

Published

on

By

GALL Cymru fod yn wlad sy’n cael ei phweru gan ynni’r môr, mae Lesley Griffiths yn addo.

Mae gan ynni’r môr y potensial i fod wrth wraidd cynlluniau uchelgeisiol i Gymru fod yn wlad sy’n cael ei phweru gan ffynonellau ynni adnewyddadwy, yn ôl Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

Pan oedd hi’n siarad yn y Gynhadledd ar Ynni’r Môr yn Nulyn ar Dydd Llun (30 Medi), gwnaeth y Gweinidog amlinellu’r llwyddiannau mae busnesau wedi’u cael wrth alluogi ynni’r môr yn ystod y flwyddyn diwethaf, a’r buddsoddiadau yn y gadwyn gyflenwi sy’n caniatáu i hyn ddigwydd.

Rydyn ni’n cydnabod bod y sector yn ifanc iawn, felly rydyn ni wedi buddsoddi mewn deg prosiect sy’n gysylltiedig ag ynni’r môr er mwyn adeiladau capasiti ac arbenigedd yng Nghymru, meddai hi.

Cytunwyd ar dros €71 miliwn o gyllid Ewropeaidd, a fydd yn arwain at fuddsoddiadau gwerth dros €117 miliwn yng Nghymru.

Mae’r busnesau sydd wedi elwa’n cynnwys:

• Ledwood Engineering, Mainstay Marine, MarineSpace a busnesau a leolir yn Sir Benfro yng Ngorllewin Cymru. Mae’r busnesau hyn i gyd wedi manteisio ar y buddsoddiadau gwerth miliynau o bunnoedd, sydd wedi bod o fudd i’w harbenigedd technegol presennol o fewn y sector ynni a sector ynni’r môr.

• Mae Minesto wedi cwblhau prosiect i alluogi’r gwaith o gyflwyno eu technoleg ffrwd lanw Deep Green yn fasnachol yn Holyhead Deep, oddi ar arfordir gorllewinol Ynys Môn. Roedd y prosiect yn cynnwys dylunio, gosod a phrofi dyfais 500 cilowat. Mae cam nesaf y prosiect wedi derbyn €14.9 miliwn ychwanegol, a bydd yn ategu’r gwaith o ddylunio safle 80 megawat oddi ar arfordir Ynys Môn, ochr wrth ochr â dylunio dyfais maint llawn o un megawat o leiaf.

• Gwnaeth y datblygwyr ynni’r tonnau Marine Power Systems, a leolir yn Abertawe, gwblhau eu blwyddyn o dreialon a phrofion morol yn llwyddiannus yr haf hwn, ac mae eu prototeip chwarter maint, WaveSub, wedi cyrraedd ei gerrig milltir critigol. Hefyd dyfarnwyd €13 miliwn iddynt i ddylunio a chynhyrchu dyfais fwy.

Bydd Fframwaith Morol cyntaf Cymru a Fframwaith Datblygu Cenedlaethol newydd hefyd yn rhoi polisi cynllunio strategol ar gyfer defnyddio adnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy ar y tir ac oddi arno.

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: “Rydyn ni’n benderfynol y bydd ynni’r môr yn rhan allweddol o’n cynlluniau i Gymru fod yn wlad sy’n cael ei phweru gan ffynonellau ynni adnewyddadwy. Mae cyllid gan yr Uned Ewropeaidd wedi bod yn hanfodol wrth gefnogi hyn.

“Rydyn ni wedi gosod targedau uchelgeisiol wrth inni geisio creu Cymru wyrddach lle mae adnoddau’n cael eu rheoli nid yn unig ar gyfer heddiw, ond er budd cenedlaethau’r dyfodol.

“Eleni rydyn ni wedi derbyn cyngor Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd i wneud ein targedau datgarboneiddio yng Nghymru yn fwy uchelgeisiol, wedi cyflwyno deddfwriaeth i fabwysiadu targed o 95% ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr y flwyddyn nesaf, ac rydyn ni’n archwilio sut gallwn ni osod targed o sero yn y dyfodol.

“Mae ynni’r môr a gwynt alltraeth yn rhan hanfodol o’r targedau hyn, wrth inni geisio harneisio ein hadnoddau naturiol i sicrhau manteision tymor hir ar gyfer pawb yng Nghymru.”

Gwnaeth y gweinidog hefyd annog Llywodraeth y DU i fuddsoddi mewn ynni’r môr ac ynni adnewyddadwy yng Nghymru.

Continue Reading

Cymraeg

Edrych ar ochr dywyll Cymru

Published

on

By

YMWELD â chorneli cudd cymdeithas – dyna hanfod y gyfres S4C Ein Byd – ac weithiau dyw hi ddim yn ddarlun hardd.

Yn ystod y gyfres bresennol mae’r cyflwynydd Siôn Jenkins yn ymchwilio i bynciau dwys gan gynnwys syrjeri tramor a defnydd cyffuriau yn un o ardaloedd Cymru sydd wedi’i henwi’n un o’r ‘hotspots’ heroin gwaethaf ym Mhrydain.

A does dim dal nôl – mae Siôn, sydd yn wreiddiol o Landysilio yn Sir Benfro – yn benderfynol o daflu goleuni ar sawl ochr dywyll o fywyd yng Nghymru.

“Mae’r pethau ‘ma’n mynd ymlaen yng Nghymru, ac efallai ‘dyw pobol ddim eisiau cydnabod hynny; ond mae’n bwysig ein bod ni’n dangos y pynciau hyn, a bod pobol yn cael gwybod am eu presenoldeb yn ein cymdeithas,” meddai Siôn. “Dyw bywyd yng Nghymru ddim yn fêl i gyd a thrwy Ein Byd rwy’ eisiau dal drych i fyny ac adlewyrchu’r darlun go iawn.”

Un o gryfderau Ein Byd yw’r berthynas mae Siôn yn datblygu gyda’r bobol sy’n ymddangos yn y gyfres ac sydd ynghanol neu sydd wedi bod trwy brofiadau anodd.

Yn y bennod ‘Syrjeri Tramor’, mae Siôn yn dilyn merch sy’n mynd i Dwrci i gael llawdriniaeth BBL (Brazilian Butt Lift). Mae Siôn gyda hi cyn, yn ystod ac ar ôl y syrjeri ac o ganlyniad, mae’n cael ymatebion gonest a chignoeth am yr holl boen mae hi wedi dioddef er mwyn creu’r corff delfrydol.

Yn y bennod ‘Cyffuriau’ mae Siôn yn dilyn Meinir, menyw yn ei 50au sydd wedi bod yn gaeth i gyffuriau am bron i 20 mlynedd ac ym mhennod ‘Y Sioe Fawr’ mae Siôn yn cael cyfweliad ecsgliwsif gyda mam James Corfield a fu farw yno adeg y Sioe Frenhinol 2017.

“Mae’n well ‘da fi adeiladu perthynas gyda’r bobl rwy’n dilyn yn hytrach na jysd mynd mewn, gwneud y cyfweliad a gadael,” esboniodd Siôn. “Rwy’n berson naturiol chwilfrydig ac rwy’n hoffi cynnal sgyrsiau a dod i wybod mwy am bobl a’u straeon.”

Ond ydyw hi’n anodd gweld y bobol mae’n dod i nabod yn dioddef?

“Newyddiadurwr ydw i ond mae’n gallu bod yn anodd iawn weithiau. Gyda Meinir, er enghraifft, roedd hi’n trio mor galed i ddod dros y cyffuriau ac o’n i’n meddwl ‘dyw’r fenyw ‘ma ddim yn gallu mynd trwy fwy’. Ond bu farw ei chwaer pan oeddem yn ffilmio’r rhaglen ac mae hi mewn perygl o golli ei phresgripsiwn. Roedd un peth ar ôl y llall felly weithiau mae’n anodd peidio teimlo drostyn nhw,” meddai Siôn.

“Ond dyna sy’n wych am Ein Byd – rwy’n cael dangos emosiwn ac empathi a bod fy hun wrth ohebu.”

Un o’r pethau mwyaf anodd i Siôn oedd cyfweld a mam James Corfield. “Roedd hi’n mor annwyl a hefyd mor barod i siarad ond mae hi’n dioddef ers colli ei mab.”

Ym Mhennod 6 ar nos Iau 14 Chwefror bydd Siôn yn bwrw golwg ar y byd steroids, a’r sefyllfa yng Nghymru.

“Byddaf yn gofyn pam fod dynion ifanc yn teimlo bod angen defnyddio steroids, ydyw hi’n ddiogel, beth yw’r peryglon a hefyd sut maen nhw’n cael gafael yn y steroids,” esboniodd Siôn.

“Mae steroids wedi bod o gwmpas am dipyn – ond mae’r defnydd wedi cynyddu yn ddiweddar ym myd rygbi – mae wedi troi mewn i gamp mor gorfforol. Felly mae cymryd steroids wedi troi mewn i rywbeth naturiol i ddynion ifanc i’w wneud.

“Mae’r steroids yn rhoi mantais iddyn nhw yn y gamp ond maen nhw’n dod yn ddibynnol ar y steroids ac mae sgil-effeithiau hirdymor o ganlyniad. Mae unigolyn o Sir Benfro yn sôn am ei brofiadau gyda steroids ac mae e wedi bron colli popeth oherwydd steroids – ei wraig, ei dy – roedd e bron lladd ei hunan.”

Mae Siôn yn falch iawn o Ein Byd a’r hyn mae’r gyfres wedi ei chyflawni. “Rwy’n meddwl bod Ein Byd yn cynnig rhywbeth ffres a newydd ac rwy’ wrth fy modd yn gweithio ar y gyfres,” meddai Siôn.

Continue Reading

Popular This Week

© 2019 Herald Newspapers PLC. All content is correct at the time of publication.